R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.
W - Yn dynodi bod y cwestiwn wedi'i gyflwyno yn
Gymraeg.
(Dangosir rhif gwreiddiol y Cwestiwn mewn
cromfachau)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i'r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
Gofyn i Brif Weinidog Cymru
1. Janet Finch-Saunders (Aberconwy):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar daliadau'r Cynllun Taliad Sylfaenol i ffermwyr? OAQ(5)0083(FM)
2. Julie Morgan (Gogledd Caerdydd):A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ffoaduriaid o Syria sy'n cael eu hadsefydlu yng Nghymru? OAQ(5)0085(FM)
3. Mohammad Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella triniaeth canser yng Nghymru yn ystod y 12 mis nesaf? OAQ(5)0076(FM)
4. Huw Irranca–Davies (Ogwr): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith bosibl Prifddinas-Ranbarth Caerdydd ar ardal teithio i'r gwaith Pen-y-bont ar Ogwr ac Ogwr? OAQ(5)0074(FM)
5. Caroline Jones (Gorllewin De Cymru) A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am recriwtio meddygon teulu yng Nghymru? OAQ(5)0080(FM)
6. Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru):Pa asesiad mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o ganlyniad y refferendwm ar yr Undeb Ewropeaidd? OAQ(5)0081(FM)W
7. Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd):Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â chaethiwed i gamblo yng Nghymru? OAQ(5)0084(FM)
8. Suzy Davies (Gorllewin De Cymru):A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am drydaneiddio prif linell reilffordd de Cymru? OAQ(5)0073(FM)
9. Russell George (Sir Drefaldwyn):A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i dwristiaeth yng nghanolbarth Cymru? OAQ(5)0075(FM)
10. Mark Isherwood (Gogledd Cymru): Sut mae Llywodraeth Cymru yn hybu'r defnydd o Iaith Arwyddion Prydain? OAQ(5)0082(FM)
11. John Griffiths (Dwyrain Casnewydd):Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ehangu mynediad i'r awyr agored eang yng Nghymru? OAQ(5)0079(FM)
12. Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am argaeledd ambiwlansys? OAQ(5)0077(FM)W
13. Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol Amgueddfa Abertawe? OAQ(5)0078(FM)W