Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Fay Buckle 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00-10.00)

1.

Cronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law

PAC(4)-29-15 PTN1 – Gwybodaeth ychwanegol gan gyn-aelodau bwrdd RIFW

PAC(4)-29-15 PTN2 – Llythyr gan Ddirprwy Ysgrifennydd Parhaol y Grŵp Addysg a Gwasanaethau Cyhoeddus (28 Hydref 2015)

PAC(4)-29-15 PTN2A – Llythyr gan Ddirprwy Ysgrifennydd Parhaol Grŵp yr Economi, Sgiliau a Chyfoeth Naturiol (22 Hydref 2015)

PAC(4)-29-15 PTN3 – Gwybodaeth ychwanegol gan Amber Infrastructre Ltd (26 Hydref 2015)

PAC(4)-29-15 PTN4 – Gwybodaeth ychwanegol gan Lambert Smith Hampton Ltd (28 Hydref 2015)

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1       Nodwyd y papurau.

1.2       Trafododd yr Aelodau y wybodaeth ychwanegol a gyflwynwyd gan dystion, ynghyd â'r dystiolaeth a gafwyd yn ystod y sesiynau tystiolaeth cynharach.

1.3       Cytunodd yr Aelodau y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at Lambert Smith Hampton gyda chwestiwn penodol o'r dystiolaeth ychwanegol a gafwyd. 

1.4       Cytunodd yr Aelodau y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at Lambert Smith Hampton gyda chwestiwn penodol o'r dystiolaeth ychwanegol a gafwyd. 

1.5       Cytunodd y Pwyllgor i aildrefnu'r sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru i 1 Rhagfyr. Cyn y sesiwn honno, cytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru gyda rhai cwestiynau penodol sydd wedi codi o'r dystiolaeth a gafwyd. 

 

 

Trawsgrifiad

(10.00)

2.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

2.2 Esgusododd Jocelyn Davies ei hun ar gyfer Eitem 1 o dan Reol Sefydlog 18.8 a dirprwyodd Alun Ffred Jones ar ei rhan.

2.3 Dirprwyodd Andrew RT Davies ar ran Mohammad Asghar ar gyfer Eitem 1.

2.4 Cafwyd ymddiheuriadau gan Sandy Mewies. Dirprwyodd Joyce Watson AC ar ei rhan. 

 

(10.00-10.15)

3.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nodwyd y papurau. Cytunodd yr Aelodau y byddai diweddariadau pellach yn gynnar yn 2016 yn ddefnyddiol ar Glastir a gwasanaeth awyr oddi-mewn i Gymru rhwng Caerdydd ac Ynys Môn.

 

3.1

Glastir: Llythyr oddi wrth Gyfarwyddwr Amaethyddiaeth, Bwyd a Morol Llywodraeth Cymru (19 Hydref 2015)

Dogfennau ategol:

3.2

Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Llythyr oddi wrth Ddirprwy Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru (19 Hydref 2015)

Dogfennau ategol:

3.3

Gofal heb ei drefnu: Llythyr oddi wrth Gyfarwyddwr Cyffredinol / Prif Weithredwr y GIG (19 Hydref 2015)

Dogfennau ategol:

3.4

Gwaith Caffael a Rheoli Gwasanaethau Ymgynghori: Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru (20 Hydref 2015)

Dogfennau ategol:

3.5

Craffu ar Gyfrifon: Gwybodaeth ychwanegol gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru (Medi 2015)

Dogfennau ategol:

3.6

Craffu ar Gyfrifon: Gwybodaeth ychwanegol gan Chwaraeon Cymru (19 Hydref 2015)

Dogfennau ategol:

3.7

Craffu ar Gyfrifon: Gwybodaeth ychwanegol gan Gomisiwn y Cynulliad (7 Hydref 2015)

Dogfennau ategol:

3.8

Craffu ar Gyfrifon: Gwybodaeth ychwanegol gan Lywodraeth Gymru (22 Hydref 2015)

Dogfennau ategol:

3.9

Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru - Caerdydd i Ynys Môn: Llythyr oddi wrth Gyfarwyddwr Dros Dro Trafnidiaeth ac Isadeiledd TGCh Llywodraeth Cymru (28 Hydref 2015)

Dogfennau ategol:

(10.15)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:

Eitemau 5 & 6

 

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.15-10.40)

5.

Buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn Isadeiledd Band Eang y Genhedlaeth Nesaf: Trafod yr adroddiad drafft

PAC(4)-29-15 Papur 1

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Trafododd yr Aelodau ar yr adroddiad drafft. Cytunwyd y byddai fersiwn ddiwygiedig yn cael ei ddosbarthu i Aelodau drwy e-bost i gytuno arno.

5.2 Cyhoeddir yr adroddiad yn ddiweddarach ym mis Tachwedd 2015.

 

(10.40-11.00)

6.

Bil Cymru drafft

PAC(4)-29-15 Papur 2 – Bil Cymru Drafft – papur clawr

PAC(4)-29-15 Papur 2A – Bil Cymru Drafft – Briff gan y Gwasanaethau Cyfreithiol ac Ymchwil

PAC(4)-29-15 Papur 3 – Bil Cymru Drafft- llythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd yr Aelodau'r briff cyfreithiol a sylwadau Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Fil Cymru drafft.

6.2 Cytunodd y Pwyllgor y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol gyda barn y Pwyllgor.