Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd - Y Pedwerydd Cynulliad

Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd - Y Pedwerydd Cynulliad

Cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ymchwiliad i werth am arian traffyrdd a chefnffyrdd, sef ymchwiliad y penderfynodd y Pwyllgor ei gynnal i ystyried gwerth am arian o ran:

  • cynnal a chadw a gwella cefnffyrdd o ddydd i ddydd;
  • rhoi prosiectau mawr ar waith i wella cefnffyrdd.

 

Fel rhan o’r ymchwiliad ystyriodd y Pwyllgor:

  • a yw dulliau Llywodraeth Cymru o roi prosiectau mawr ar waith i wella cefnffyrdd yn sicrhau gwerth am arian, gan gynnwys:
    • pa mor effeithiol yw dulliau Llywodraeth Cymru o gynllunio a phrisio cynlluniau;
    • sut y mae’n rhoi prosiectau ar waith ac yn eu gwerthuso;
    • sut y gallai Llywodraeth Cymru wella’r modd y mae’n cynllunio prosiectau ac yn eu rhoi ar waith.
  • i ba raddau y mae’r dulliau presennol o gynnal a chadw a gwella’r rhwydwaith drwy’r Asiantau Cefnffyrdd wedi sicrhau gwerth am arian; a

sut y gellir gwella swyddogaethau’r Asiantau Cefnffyrdd o ran cynnal a chadw a gwella cefnffyrdd, a hynny yng nghyd-destun adolygiad Llywodraeth Cymru o’r asiantau hyn.

 

Yn ei Adroddiad Etifeddiaeth, argymhellodd y Pwyllgor y dylai ei olynydd ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru yn yr hydref 2016 am y camau a gymerwyd i weithredu argymhellion y Pwyllgor ac y dylai gysylltu ag olynydd y Pwyllgor Menter a Busnes i drafod unrhyw gynlluniau ar gyfer gwaith craffu ychwanegol ar y pwnc hwn.

 

Hynt yr ymchwiliad

 

Mae’r tabl canlynol yn nodi dyddiadau a chynnwys y sesiynau tystiolaeth yn ystod yr ymchwiliad.

 

Sesiwn Dystiolaeth

Dyddiad, Agenda a Cofnodion

Trawsgrifiad

Fideo

1.   Defnyddwyr ffyrdd

3 Mawrth 2015

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 1

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 1 ar Senedd TV

2. Peirianwyr Sifil a Chyrff Proffesiynol Priffyrdd

17 Mawrth 2015

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 2

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 2 ar Senedd TV

3. Arbenigwyr Academaidd

17 Mawrth 2015

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 3

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 3 ar Senedd TV

4. Asianiaethau Cefnffyrdd

24 Mawrth 2015

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 4

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 4 ar Senedd TV

5. Llywodraeth Cymru

21 Ebrill 2015

Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 5

Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 5 ar Senedd TV

 

Tystiolaeth gan y cyhoedd

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y testun yma.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 14/01/2015

Dogfennau

Ymgynghoriadau