Bil Cymru Drafft
Cafodd Bil Cymru drafft ei gyhoeddi gan
Llywodraeth y DU ar 20 Hydref 2015. Roedd cyhoeddi’r Bil drafft yn gyfle i graffu
ar cynigion cyn i’r Bil gael ei gyflwyno’n ffurfiol yn Senedd y DU.
Diben ymchwiliad y
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i Fil Cymru Drafft
Llywodraeth y DU oedd archwilio, yn benodol:
- i ba raddau y mae’r model cadw pwerau arfaethedig o
gymhwysedd deddfwriaethol yn glir, yn gydlynol ac ymarferol, ac yn darparu
fframwaith cryf i alluogi’r Cynulliad i ddeddfu o’i fewn;
- y profion ar gyfer penderfynu cymhwysedd fel y’u
nodir yng nghymal 3 ac Atodlenni 1 a 2 i’r Bil drafft;
- i ba raddau y mae’r fframwaith newydd arfaethedig yn
newid cymhwysedd y Cynulliad i ddeddfu;
- y pwerau deddfwriaethol arfaethedig sydd ar gael mewn
meysydd pwnc penodol o ganlyniad i Atodlenni 1 a 2 i’r Bil drafft;
- y cynigion i’r Cynulliad gael pwerau dros ei
weithrediad (er enghraifft, mewn cysylltiad â’i enw, nifer yr Aelodau
Cynulliad a phwerau etholiadol ar gyfer y Cynulliad);
- y pwerau ychwanegol i’w rhoi i Weinidogion Cymru, yn
enwedig i wneud is-ddeddfwriaeth;
- y cynigion mewn perthynas â pharhauster y Cynulliad a
Llywodraeth Cymru;
- y cynigion mewn perthynas â’r confensiwn ynghylch
Senedd y DU yn deddfu ar faterion datganoledig;
- goblygiadau’r Bil drafft ar gyfer cyfansoddiad y Deyrnas
Unedig; ac
- unrhyw fater arall sy’n ymwneud â’r pwerau
deddfwriaethol y mae eu hangen ar y Cynulliad i ddeddfu’n effeithiol.
Tystiolaeth
Cynhaliodd y Pwyllgor
ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth
am y pwnc hwn.
Mae’r dystiolaeth hon yn
cynnwys gohebiaeth gan Bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a fu’n ystyried
sut y gallai effeithio ar y meysydd pwnc y maent yn gyfrifol am graffu arnynt.
Hefyd, cymerodd y
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol dystiolaeth mewn cyfarfodydd
ffurfiol.
Gwaith craffu rhyngseneddol ar y cyd
Bu Pwyllgor
Dethol Materion Cymreig Senedd y DU, hefyd yn trafod y ddeddfwriaeth
ddrafft. Cynhaliodd y ddau bwyllgor sesiwn dystiolaeth ar y cyd yn y Senedd ar 9
Tachwedd 2015.
Adroddiad
Cafodd adroddiad y Pwyllgor
Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar ei ymchwiliad ei gyhoeddi ar 4
Rhagfyr, 2015.
Darllenwch ein hadroddiad cryno ar ein
hymchwiliad.
Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod
Llawn ar yr adroddiad ar Fil Cymru drafft ar 13 Ionawr 2016. Gallwch
wylio’r ddadl eto ar senedd.tv
a gallwch hefyd ddarllen Cofnod
y Trafodion.
Mae
rhagor o wybodaeth am Fil Cymru ar gael ar dudalennau’r Gwasanaeth Ymchwil.
Math o fusnes: Gwaith cyn y broses Ddeddfu (e.e. Papurau Gwyn)
Statws: Cyhoeddwyd yr adroddiad
Cyhoeddwyd gyntaf: 26/10/2015
Dogfennau
- Gohebiaeth oddi wrth y Llywydd at Ysgrifennydd Gwladol Cymru, 14 Ionawr 2016 (Saesneg yn unig)
PDF 251 KB
- Llythyr wrth Cadeirydd y Pwyllgor i David T.C. Davies AS, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfasnoddiadol, Ty'r Cyffredin, 18 Rhagfyr 2015 (Saesneg yn unig)
PDF 428 KB
- Gohebiaeth oddi wrth y Llywydd at Ysgrifennydd Gwladol Cymru, 8 Rhagfyr 2015 (Saesneg yn unig)
PDF 2 MB
- Ymateb Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Gadeirydd y Pwyllgor Menter a Busnes (Saesneg yn unig), 7 Rhagfyr 2015 (Saesneg yn unig)
PDF 100 KB
- Ymateb Ysgrifennydd Gwladol Cymru i Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, 1 Rhagfyr 2015 (Saesneg yn unig)
PDF 98 KB
- Llythyr wrth David T.C. Davies AS, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol i Gadeirydd y Pwyllgor, 16 Tachwedd 2015 (Saesneg yn unig)
PDF 85 KB
- Gohebiaeth rhwng y Prif Weinidog a David TC Davies AS, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, ynghylch Bil Cymru drafft, 20 Tachwedd 2015 (Saesneg yn unig)
PDF 178 KB
- Gohebiaeth rhwng Ysgrifennydd Gwladol Cymru, a David TC Davies AS, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cymreig, ynghylch materion a godwyd yn ystod y broses craffu cyn deddfu ar Fil Cymru drafft, 7 Rhagfyr 2015, (Saesneg yn unig)
PDF 353 KB
- Gohebiaeth gan y Prif Weinidog, at Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ynghylch Bil Cymru drafft 20 Hydref 2015 (Saesneg yn unig)
- Gohebiaeth oddi wrth y Llywydd at Ysgrifennydd Gwladol Cymru, 2 Medi 2015
- Llythyr wrth Cadeirydd y Pwyllgor i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Mawrth 2014
PDF 207 KB Gweld fel HTML (11) 15 KB
- Ymateb gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru, 7 Ebrill 2014 (Saesneg yn unig)
PDF 68 KB
Ymgynghoriadau
- Ymchwiliad y Pwyllgor i'r Bil Cymru Drafft (Wedi ei gyflawni)