Glastir

Glastir

Yn dilyn cyhoeddi adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar Glastir, cynllun amaeth-amgylcheddol Llywodraeth Cymru, cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ymchwiliad i’r Cynllun.

 

Yn ei Adroddiad Etifeddiaeth, argymhellodd y Pwyllgor y dylai ei olynydd ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am y camau a gymerwyd i weithredu argymhellion y Pwyllgor, yn ogystal â chanfyddiadau rhaglen monitro a gwerthuso Glastir y cytunodd Llywodraeth Cymru i’w hanfon pan eu bod ar gael. Bydd y Pwyllgor olynol o bosibl am gysylltu ag olynydd Pwyllgor yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd i drafod unrhyw gynlluniau ar gyfer gwaith craffu ychwanegol ar y pwnc hwn.

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 29/09/2014

Dogfennau