Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Fay Buckle
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad
o’r cyfarfod (PDF 177KB) Gweld
fel HTML (166KB) |
||
(09:00) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1
Estynnodd y Cadeirydd groeso i'r Aelodau i’r cyfarfod. 1.2
Croesawodd y Cadeirydd Fay Buckle yn ôl fel Clerc a
diolch i Michael Kay am glercio'r Pwyllgor yn ei habsenoldeb. |
|
(09:05-09:35) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1
Nodwyd y papurau. Cytunodd yr aelodau ar y canlynol: · Buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn
isadeiledd Band Eang y Genhedlaeth Nesaf - Cytunodd Archwilydd Cyffredinol
Cymru i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurhad ynglŷn â nifer o faterion. · Gweithredu'r Fframwaith Cenedlaethol
ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG - Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at
Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurhad ynglŷn â nifer o faterion a godwyd gan Aelodau. · Glastir - Cytunodd y Cadeirydd i
ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf, pan fydd ar
gael, ynglŷn
â'r cynlluniau rheoli basnau afonydd wedi'u diweddaru a hefyd i ofyn am ragor o
eglurhad ynglŷn
ag achosion y gellir eu holrhain i dir a reolir gan Gyfoeth Naturiol Cymru lle
y methwyd â chydymffurfio â'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. · Gofal heb ei Drefnu - Cytunodd y
Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am eglurhad ynglŷn â nifer o faterion a godwyd. · Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd
Prifysgol Betsi Cadwaladr - Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth
Cymru yn gofyn am gopi o'r adolygiad sy'n cael ei gynnal gan y Dr Chris Jones
ar wasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau arferol, pan fydd ar
gael, a hefyd i ofyn am ddata yn ymwneud â nifer y gwasanaethau meddygon teulu
penodol sydd wedi'u lleoli o fewn adrannau achosion brys mewn ysbytai. |
|
Buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn Isadeiledd Band Eang y Genhedlaeth Nesaf: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (17 Gorffennaf 2015) Dogfennau ategol: |
||
Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Gofal Iechyd Parhaus y GIG: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (21 Gorffennaf 2015) Dogfennau ategol: |
||
Glastir: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (31 Gorffennaf 2015) Dogfennau ategol: |
||
Gofal heb ei drefnu: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (7 Awst 2015) Dogfennau ategol: |
||
Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Llythyr gan Lywodraeth Cymru (1 Medi 2015) Dogfennau ategol: |
||
(09:35-09:50) |
Adroddiad Blynyddol y Bwrdd Cynghori ar Adroddiadau Ariannol 2014-2015 PAC(4)-22-15
Papur 1 Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Rhoddodd Mike Usher, Arweinydd Sector ar gyfer Iechyd a Llywodraeth
Ganolog yn Swyddfa Archwilio Cymru, sesiwn friffio ar yr adroddiad, ac fe'i
nodwyd gan yr Aelodau. 3.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol yn gofyn
am eglurhad ynglŷn ag amserlen Llywodraeth Cymru ar
gyfer gweithredu'r prosiect Symleiddio a Gwella Cyfrifon. |
|
(09:50-10:10) |
Ymchwiliad i werth am arian Buddsoddi mewn Traffyrdd a Chefnffyrdd: Ystyried ymateb Llywodraeth Cymru PAC(4)-22-15 Papur 2 PAC(4)-22-15 Papur 3 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Nododd yr Aelodau ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Pwyllgor a
sylwadau'r Archwilydd Cyffredinol yn ei gylch. 4.2 Cytunodd yr Aelodau y dylai'r Cadeirydd ysgrifennu at Lywodraeth Cymru
i ofyn am ragor o eglurhad ynglŷn ag ymateb y llywodraeth i
argymhellion yr Adroddiad ac esboniad o'u rhesymau dros newid eu polisi ar godi
sgriniau o amgylch damweiniau, ar yr A55, i atal modurwyr rhag edrych ar
ddamweiniau. |
|
(10:10) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes canlynol: Eitem 6 Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10:10-11:00) |
Craffu ar Gyfrifon 2014-15 Cofnodion: 6.1 Trafododd yr Aelodau'r sesiynau craffu sydd ar y gweill ar gyfrifon
blynyddol 2014-15 gan awgrymu meysydd yr oeddent yn dymuno iddynt gael eu
cynnwys yn y briffiau perthnasol. 6.2 Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru y bydd yn ysgrifennu gyda
dadansoddiad o sut y mae'r cyrff y rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth iddynt yn
2014 wedi bwrw ymlaen ag argymhellion y Pwyllgor, ar ôl archwilio'r holl
adroddiadau blynyddol a chyfrifon ar eu cyfer.
|