Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd
Cyswllt: Fay Buckle
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09:00-09:15) |
Trefniadau Llywodraethu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 1.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn y
cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf. 1.2 Cytunodd yr
aelodau i gynnal darn ehangach o waith ar drefniadau llywodraethu byrddau
iechyd ar ôl cyhoeddi adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol ar gyllid iechyd a
dangosyddion allweddol ar berfformiad gwasanaeth. |
|
Trawsgrifiad Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod. |
||
(09:15) |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr
Aelodau i’r Pwyllgor. 2.2 Datganodd Jenny Rathbone fuddiant fel Cadeirydd y Pwyllgor Monitro
Rhaglenni, datganodd Alun Ffred Jones fuddiant fel aelod o Gyngor Prifysgol
Bangor, a datganodd Sandy Mewies fuddiant fel Cymrawd Prifysgol Glyndŵr. |
|
(09:15 - 09:20) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Nodwyd y
papurau. ·
Cytunwyd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Gadeirydd y
Pwyllgor Cyllid yn awgrymu bod y Pwyllgor yn monitro nifer o faterion a godwyd
gan yr Aelodau ar gyllid addysg uwch. Cytunodd Swyddfa Archwilio Cymru i
baratoi nodyn briffio ar ddileu dyledion sy’n gysylltiedig â llyfr
benthyciadau. ·
Bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol yn
gofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am Argymhelliad 5 o strategaeth leoli
Llywodraeth Cymru yn dilyn yr adolygiad y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn
ddiweddarach eleni. |
|
Cyllid addysg uwch Dogfennau ategol: |
||
Strategaeth leoli Llywodraeth Cymru: Llythyr gan yr Ysgrifennydd Parhaol (23 Mehefin 2014) Dogfennau ategol: |
||
Ymdrin â’r Heriau Ariannol sy’n wynebu Llywodraeth Leol yng Nghymru: Llythyr gan Steve Thomas, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (8 Gorffennaf 2014) Dogfennau ategol: |
||
Swyddfa Archwilio Cymru: Y Diweddaraf am Raglen Waith Gwerth am Arian yr Archwilydd Cyffredinol (9 Gorffennaf 2014) Dogfennau ategol: |
||
(09:20-09:30) |
Trefniadau cyflenwi ar gyfer absenoldeb athrawon: Trafod yr ymateb gan Lywodraeth Cymru PAC(4)-21-14 (papur 1) PAC(4)-21-14 (papur 2) Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Nododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru. Cytunwyd y bydd y
Cadeirydd yn ateb y Gweinidog ar Argymhellion
1, 3 a 13. Bydd y Pwyllgor yn trafod y mater eto yn 2015 ar ôl cael y wybodaeth
ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru. |
|
(9:30-9:40) |
Rheoli Grantiau yng Nghymru: Ystyried gohebiaeth PAC(4)-21-14 (papur 3) Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunodd i drafod y mater eto yn
ystod gwanwyn 2015 pan fydd adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar reoli
grantiau ar gyfer 2014/15 ar gael. 5.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Parhaol yn gofyn
am ragor o wybodaeth am werth grantiau yr effeithir arnynt yn dilyn achosion o
ddiffyg cydymffurfio ar ôl yr archwiliadau dirybudd. |
|
(09:40) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y canlynol: Eitemau 7, 8, 9, 10 a 11 Cofnodion: 6.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(09:40-09:55) |
Pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant: Papur briffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru Cofnodion: 7.1 Rhoddodd yr Archwilydd Cyffredinol wybodaeth lafar i Aelodau am ei
adroddiad a gyhoeddwyd ar 10 Gorffennaf. 7.2 Cytunodd Aelodau i ofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru ac i drafod y
mater eto yn yr hydref. 7.3 Cytunodd yr Aelodau hefyd y dylai’r Cadeirydd ysgrifennu at y Pwyllgor Menter a Busnes yn gofyn a fydd
yn gwneud unrhyw waith pellach ar y mater hwn. |
|
(09:55-10:10) |
Y Fenter Dwyll Genedlaethol 2012-13: Papur briffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru Cofnodion: 8.1 Rhoddodd yr Archwilydd Cyffredinol wybodaeth lafar i Aelodau am ei
adroddiad a gyhoeddwyd ar 12 Mehefin. 8.2 Gwnaeth Aelodau nodi a chroesawu’r adroddiad a chytunodd y dylai’r
Cadeirydd ysgrifennu at Gartrefi Cymunedol Cymru a Sefydliadau Addysg Bellach
ac Uwch i’w hannog i gymryd rhan yn y Fenter Dwyll Genedlaethol. 8.3 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am y
wybodaeth ddiweddaraf am Argymhelliad 3 yn adroddiad y Pwyllgor ar Reoli
Grantiau ynghylch achosion o dorri’r Cod Ymarfer ar gyfer ariannu’r trydydd
sector, a’u hatgoffa y dylai manylion o unrhyw achosion o’r fath gael eu
cynnwys yn yr adroddiad rheoli grantiau blynyddol. |
|
(10:10-10:30) |
Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru - Caerdydd i Ynys Môn: Cytuno ar yr adroddiad terfynol PAC(4)-21-14 (papur 4) Cofnodion: 9.1 Gwnaeth yr Aelodau ystyried a derbyn yr adroddiad. |
|
(10:30-10:45) |
Adroddiad Blynyddol 2013/14: Cytuno ar yr adroddiad terfynol PAC(4)-21-14 (papur 5) Cofnodion: 10.1 Gwnaeth yr Aelodau ystyried a derbyn yr adroddiad. |
|
(10:45-11:00) |
Blaenraglen waith: Hydref 2014 PAC(4)-21-14 (papur 6) Cofnodion: 11.1 Nododd yr Aelodau y rhaglen waith ar gyfer tymor yr hydref 2014. |