Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd

Cyswllt: Fay Buckle 

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.   Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r Pwyllgor.

 

(09:00-10:00)

2.

Gofal heb ei drefnu: Ymateb gan Lywodraeth Cymru

PAC(4)-32-13 papur 1

PAC(4)-32-13 papur 2

 

David Sissling - Cyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr, GIG Cymru 

Kevin Flynn - Cyfarwyddwr Cyflawni a Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru

Dr Grant Robinson - Arweinydd Clinigol ar gyfer Gofal heb ei drefnu

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Holodd y Pwyllgor David Sissling, y Cyfarwyddwr Cyffredinol ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol/Prif Weithredwr GIG Cymru, Ruth Hussey, y Prif Swyddog Meddygol, a'r Dr Grant Robinson, yr Arweinydd Clinigol ar gyfer Gofal heb ei Drefnu, Llywodraeth Cymru, ynghylch Gofal heb ei drefnu.

 

Camau gweithredu:

 

Cytunodd David Sissling i:

 

·       Rannu'r rhestr wirio a ddefnyddir wrth archwilio gofal sylfaenol

·       Ymchwilio ymhellach i'r ganran o feddygfeydd sy'n cynnig apwyntiadau ar ôl 17.00,a pha mor aml y digwydd hynny.

·       Gwirio'r diffiniad o 'heb ddod i'r apwyntiad'

·       Anfon nodyn am yr amserlen ar gyfer gweithredu'r gwasanaeth 111, a darparu gwybodaeth ddiweddar am y gwasanaeth yn rheolaidd.

·       Anfon nodyn am ffigurau'r Ddeoniaeth ar gyfer hyfforddi meddygon teulu.

 

(10:00)

3.

Papurau i’w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Nodwyd y papurau.

 

3a

Cyllid Iechyd ar gyfer 2012-13 a thu hwnt: Llythyr gan Adam Cairns, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro (14 Tachwedd 2013)

PAC(4)-32-13 (ptn1)

 

Dogfennau ategol:

(10:35)

9.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:

Eitemau 5, 6, 7, 8, 9, 10 a 11

 

 

Cofnodion:

9.1 Derbyniwyd y cynnig bod eitemau 4, 5, 6, 7 ac 8 ar yr agenda yn cael eu trafod yn breifat, ynghyd â'r papur ar gyfer eitem 10.

 

(10:00-10:10)

4.

Contract Meddygon Ymgynghorol yng Nghymru: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru

PAC(4)-32-13 papur 3

PAC(4)-32-13 papur 4

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Nodwyd yr ymatebion, a dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol wrth y Pwyllgor bod Swyddfa Archwilio Cymru yn bwriadu gwneud rhagor o waith ar y mater hwn. Bydd y Pwyllgor yn dychwelyd at y mater hwn pan fydd canlyniadau'r gwaith hwnnw ar gael.

 

(10:10-10:20)

5.

Gwasanaethau Mamolaeth yng Nghymru: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru

PAC(4)-32-13 papur 5

PAC(4)-32-13 papur 6

 

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1 Nododd y Pwyllgor yr ymateb pellach gan Lywodraeth Cymru, a chytunwyd i'w rannu gyda'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

 

(10:20-10:25)

6.

Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru

PAC(4)-32-13 papur 7

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Nododd y Pwyllgor yr ymateb pellach gan Lywodraeth Cymru, a chytunwyd i wahodd yr Athro White i'r Pwyllgor i drafod eu pryderon.

 

(10:25-10:30)

7.

Argyfyngau Sifil yng Nghymru: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru

PAC(4)-32-13 papur 8

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Roedd y Pwyllgor yn fodlon â'r ymateb boddhaol gan Lywodraeth Cymru.

 

(10:30-10:35)

8.

Buddsoddiad Cyfalaf mewn Ysgolion: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru

PAC(4)-32-13 papur 9

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Nododd y Pwyllgor yr ymateb pellach gan Lywodraeth Cymru, a chytunwyd i'w rannu gyda'r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc.

 

(10:35-11:00)

10.

Cyflog Uwch-reolwyr: Trafod y papur dadansoddi

PAC(4)-32-13 papur 10

 

 

Cofnodion:

10.1 Nododd y Pwyllgor y memorandwm drafft gan Swyddfa Archwilio Cymru, a bod angen gwneud rhagor o waith ar y papur cyn y caiff ei gyhoeddi.

 

10.2 Trafododd y Pwyllgor sut yr oedd yn bwriadu gweithio ar yr ymchwiliad hwn.