Cyllid Iechyd 2012-13 a Thu Hwnt
Cyllid Iechyd 2012-13 a Thu Hwnt
Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei adroddiad, sef Cyllid Iechyd
2012-13 a Thu Hwnt ym mis Gorffennaf 2013.
Roedd yr adroddiad hwn yn ystyried sefyllfa ariannol GIG Cymru yn ystod 2012-13
ac yn dilyn adroddiad blaenorol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Gyllid
Iechyd, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2012, a ystyriwyd gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar
ddiwedd 2012, ac y cyflwynwyd adroddiad arno ym mis Chwefror 2013.
Mae adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru yn rhoi asesiad manwl o sefyllfa
ariannol cyrff y GIG yn 2012-13.
Ystyriodd y perfformiad o ran darparu gwasanaethau, yn enwedig y meysydd
hynny y nodwyd eu bod yn flaenoriaeth gan yr Adran Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol. Roedd yr adroddiad hefyd yn ystyried heriau ariannol a heriau i
wasanaethau yn y dyfodol i’r GIG yn y byrdymor, y tymor canolig a’r hirdymor.
Cafodd y Pwyllgor ei
friffio ar ganfyddiadau’r adroddiad gan yr Archwilydd Cyffredinol yn ei
gyfarfod ar 24 Medi 2013. Yn dilyn y sesiwn hon, cynhaliodd y Pwyllgor
ymchwiliad er mwyn ystyried:
·
Ansawdd y cynlluniau tair blynedd a'r perygl o 'orlwytho' yn y flwyddyn
gyntaf
·
Yr anawsterau o ran sicrhau arbedion
·
Dirywiad o ran perfformiad mewn rhai meysydd gwasanaeth
·
Diwygio gwasanaethau a'r cysylltiad â lleihau costau
·
Y cynnydd mewn hawliadau esgeuluster
·
Sut y caiff blaenoriaethau Haen 1 eu penderfynu
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 20/01/2014
Dogfennau