Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai

Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai

Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei adroddiad, sef Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai ym mis Mawrth 2011. Canfu fod gwasanaethau arlwyo mewn ysbytai yng Nghymru wedi gwella ers 2002, ond bod angen gwneud mwy i wella gofal maethol ar gyfer cleifion mewn ysbytai.

Cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ymchwiliad i'r mater hwn. Roedd y Pwyllgor yn falch o weld bod gwelliannau wedi'u gwneud ers i wasanaethau arlwyo ysbytai fod yn destun archwiliad perfformiad ddiwethaf yn 2002. Roedd y Pwyllgor yn siomedig bod amrywiaeth eang yng nghostau, gwaith cynllunio a'r ddarpariaeth o wasanaethau arlwyo ledled sefydliadau'r GIG yng Nghymru o hyd, yn arbennig pan fo Llywodraeth Cymru yn derbyn pwysigrwydd maeth da yn cefnogi gwellhad cleifion yn ei hamcanion polisi. Mae'r Pwyllgor yn gobeithio y bydd y gostyngiad yn nifer y sefydliadau GIG yng Nghymru yn caniatáu ar gyfer cyfnewid mwy effeithiol o arfer da sydd yna'n arwain at ddull mwy safonol o ddarparu'r elfen hanfodol hon o ofal mewn ysbyty.

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 20/05/2013

Dogfennau