Meddygon Ymgynghorol yng Nghymru: Cynnydd o ran Sicrhau’r Manteision a Fwriadwyd
Meddygon Ymgynghorol yng Nghymru: Cynnydd o ran Sicrhau’r Manteision a Fwriadwyd
Cyflwynwyd y contract cyntaf i feddygon ymgynghorol yn y
DU ym 1948 ac arhosodd yn ddigyfnewid i raddau helaeth hyd nes i drafodaethau
contract newydd ddechrau yn 2000. Yn
sgil trafodaethau amrywiol, daeth contract i Gymru yn gyfrwymol ar bob meddyg
ymgynghorol yng Nghymru ar 1 Rhagfyr 2003.
Cyhoeddwyd adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, sef
Contract Meddygon Ymgynghorol yng Nghymru: Cynnydd o ran Sicrhau’r Manteision a
Fwriadwyd, ym mis Chwefror 2013. Canfu’r adroddiad fod prosesau recriwtio a
chadw meddygon ymgynghorol wedi gwella ers i’r contract diwygiedig gael ei
gyflwyno yn 2003, gyda nifer y meddygon ymgynghorol llawn amser yn cynyddu 37 y
cant rhwng 2004 a 2011. Fodd bynnag, canfu’r adroddiad y canlynol hefyd:
- bod rhai meddygon ymgynghorol yn dal i weithio oriau hir iawn, gydag un o bob chwech
yn gweithio o leiaf 46.5 awr ac yn aml yn mynd y tu hwnt i derfyn 48 awr
Cyfarwyddeb Oriau Gwaith yr UE; ac
- nad oedd y contract
diwygiedig wedi ysgogi proses o foderneiddio’r gwasanaeth yn y ffordd a
ragwelwyd yn wreiddiol.
Hefyd, nododd yr adroddiad fod llai na hanner y meddygon
ymgynghorol a ymatebodd i arolwg yn teimlo bod y contract diwygiedig a gwaith
cynllunio swyddi wedi arwain at arfer clinigol gwell a bod llai byth o’r farn
ei fod wedi gwella gofal cleifion a dulliau gweithio meddygon ymgynghorol.
Cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
ymchwiliad byr i faterion a godwyd yn adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 01/08/2013
Dogfennau