Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Steve George Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Dogfennau ategol: |
|
Deisebau newydd |
|
P-04-558 GWAHARDD E-SIGARÉTS I BOBL IFANC O DAN 18 OED Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu
at: ·
y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn ei farn am y
ddeiseb; a'r ·
deisebydd, gan dynnu sylw at ddatganiad diweddar y Gweinidog ar y
mater. |
|
P-04-559 Ymwybyddiaeth mewn Ysgolion Uwchradd o Hunan-niweidio Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu
at: ·
y Gweinidog Addysg a Sgiliau a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau
Cymdeithasol; ·
pob Bwrdd Iechyd Lleol; a ·
Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ofyn eu barn am y ddeiseb. |
|
P-04-560 Gwasanaethau Clefyd Llid y Coluddyn yng Nghymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu
at: ·
y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol; a ·
phob Bwrdd Iechyd Lleol i ofyn eu barn am y ddeiseb. |
|
P-04-561 Hyrwyddo rygbi ar lawr gwlad yng Nghymru i annog pobl i gymryd rhan Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu
at: ·
y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon; ac ·
Undeb Rygbi Cymru i ofyn eu barn am y ddeiseb. |
|
P-04-562 Canolfan Etifeddiaeth Caernarfon Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu
at: ·
y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon; ac ·
Chyngor Gwynedd i ofyn eu barn am y ddeiseb. |
|
P-04-563 Y ddarpariaeth o wasanaethau yng ngorsaf dân Pontypridd Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu
at: ·
y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth; a ·
Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru i ofyn eu barn am y ddeiseb. Roedd y
Pwyllgor yn arbennig o awyddus i glywed barn y Gweinidog ar sut y byddai
argymhellion adolygiad Williams o lywodraeth leol yn effeithio ar Awdurdodau
Tân. |
|
P-04-564 Adfer Gwlâu i Gleifion, Gwasanaeth Mân Anafiadau ac Uned Pelydr-X i Ysbyty Coffa Ffestiniog Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu
at: ·
y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn ei farn am y
ddeiseb; a ·
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ofyn eu barn am y ddeiseb. |
|
P-04-565 Adfywio hen reilffyrdd segur at ddibenion hamdden. Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at
Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth a'r Gweinidog Diwylliant a
Chwaraeon i ofyn am eu barn am y ddeiseb. |
|
P-04-566 Adolygu'r Cod Derbyn i Ysgolion Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu
at: ·
y Gweinidog Addysg a Sgiliau; a ·
Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ofyn eu barn am y ddeiseb. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-04-536 Rhoi’r Gorau i Ffatrïoedd Ffermio Gwartheg Godro yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y nodyn briffio cyfreithiol ynghylch y ddeiseb a
chytunodd i drafod y ddeiseb ymhellach yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor. |
|
P-04-530 Labelu Dwyieithog Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
i gau'r ddeiseb am ei bod yn glir na all y Gweinidog gydymffurfio â'r hyn
y mae'r deisebydd yn gofyn amdano; ac ·
wrth wneud hynny, i dynnu sylw Aelodau Senedd Ewrop o Gymru at y ddeiseb. |
|
P-04-492 Diagnosis o awtistiaeth ymysg plant Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu
at y Dirprwy Weinidog, yn unol â chais y deisebydd, i ofyn a ellir: ·
gwahodd Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru i drefnu bod un o'i
chynrychiolwyr yn rhan o'r Grŵp
Gorchwyl a Gorffen y mae'r Dirprwy Weinidog wrthi'n ei ffurfio; a ·
sicrhau bod adroddiad ac argymhellion y Grŵp Gorchwyl a Gorffen yn
cael eu cyhoeddi maes o law. |
|
P-04-397 Cyflog Byw Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i:
|
|
P-04-373 Parthau Gwaharddedig o Amgylch Ysgolion ar gyfer Faniau Symudol sy'n Gwerthu Bwyd Poeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i: ·
ofyn am ymateb gan y deisebydd i lythyr y Gweinidog; ac ·
aros am y wybodaeth bellach a addawyd gan y Gweinidog. |
|
P-04-496 Ysgolion pob oed Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth ynghylch y ddeiseb a chytunodd i gau'r
ddeiseb gan na fu'r deisebydd mewn cysylltiad ers cryn amser. |
|
P-04-511 Cefnogi'r safonau cyfranogaeth plant a phobl ifanc Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i: ·
ofyn i'r Gweinidog am ei ymateb i'r ddau argymhelliad a wnaed gan y
deisebwyr ynghylch cefnogi'r 'nod barcud'; a ·
gofyn i Achub y Plant ymateb i lythyr gwreiddiol y Pwyllgor. |
|
P-04-522 Asbestos mewn Ysgolion Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at: ·
y Gweinidog, gan anfon copi o ohebiaeth ddiweddar y deisebydd; ·
Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg gan dynnu sylw at y
ddeiseb; a'r ·
rhanddeiliaid canlynol i ofyn eu barn am y ddeiseb: o
Cyngres Undebau Llafur Cymru; o
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; a o
Llywodraethwyr Cymru. |
|
P-04-538 Cynnwys darlithwyr i sicrhau Fframwaith Arolygu Addysg Bellach sy'n addas at y diben Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Prif
Arolygydd Ysgolion, yn gofyn ei barn am ohebiaeth y deisebydd. |