P-04-566 Adolygu’r Cod Derbyn i Ysgolion

P-04-566 Adolygu’r Cod Derbyn i Ysgolion

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i adolygu’r Cod Derbyn i Ysgolion gan nad yw’n addas i’r diben.

Nid yw’r Cod Derbyn i Ysgolion yn addas i’r diben oherwydd;

Mae’n esgus cefnogi confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn ond nid oes gofyn bod ymgynghori â phlant wrth wneud penderfyniadau sy’n effeithio arnynt. Mae’n esgus cefnogi’r Ddeddf Cydraddoldeb, ond nid oes gofyn bod Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb;

Nid yw’n ddigon penodol ac felly mae hynny’n arwain at wahaniaethau wrth ei weithredu; mae rhai er gwell a rhai er gwaeth;

Mae’r hawl i rieni a chyrff llywodraethu apelio i Lywodraeth Cymru yn gyfyng iawn. Yn benodol, mae cyrff llywodraethol a ystyrir yn ymgyngoreion statudol, ac eto sydd wedi eu cyfyngu o ran yr amgylchiadau penodol iawn y mae modd iddynt apelio ynddynt;

Mae geiriad y Cod Derbyn i Ysgolion yn amwys ac nid yw’n hawdd ei ddefnyddio i’r rhai y mae’n rhaid iddynt wneud hynny;

Nid yw’r Cod Derbyn i Ysgolion yn diffinio “rhesymol” yng nghyd-destun cyfnodau ymgynghori;

Oherwydd yr holl resymau uchod, nid yw’r Cod Derbyn i Ysgolion yn briodol wrth ymdrin â newidiadau sylweddol, fel newidiadau i dalgylchoedd.      

 

Prif ddeisebydd:  Jane Chapman

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 17 Mehefin 2014

Nifer y llofnodion: 156

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 13/06/2014