P-04-538 Cynnwys darlithwyr i sicrhau Fframwaith Arolygu Addysg Bellach sy’n addas at y diben

P-04-538 Cynnwys darlithwyr i sicrhau Fframwaith Arolygu Addysg Bellach sy’n addas at y diben

Credwn y canlynol: 1. Byddai cynnwys barn darlithwyr yn gynnar yn y broses o wneud penderfyniadau o fudd mawr i’r gwaith o ddatblygu fframwaith arolygu sy’n addas at y diben; 2. Oherwydd y pwyslais cynyddol a fydd ar sgiliau meddal, a’r mewnbwn proffesiynol sydd ei angen gan y rheini sy’n deall ac sy’n gweithio gyda’r agweddau cymhleth ar gydbwyso addysgeg, galwadau myfyrwyr, cyflogwyr a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, ymddengys y byddai’n beth da cynnwys y rheini sydd wrth wraidd y broses o ddarparu’r agenda hon; 3. Dylai gwasanaethau addysg yng Nghymru gael eu gweld fel rhan o deulu ehangach, ond rydym yn poeni bod y sector Addysg Bellach, ac yn yr achos hwn yn benodol, darlithwyr yn cael eu heithrio o’r teulu hwn a ddim yn cael y parch proffesiynol y maent yn ei haeddu.

Gwybodaeth ychwanegol: 1. Fel yr Undeb mwyaf sy’n cynrychioli darlithwyr Addysg Bellach yng Nghymru, mae’r Undeb Prifysgolion a Cholegau wedi’i eithrio o Grŵp Cynghori Estyn a sefydlwyd i ddatblygu’r fframwaith arolygu newydd ar gyfer sefydliadau Addysg Bellach yng Nghymru; 2. Ar hyn o bryd, dim ond penaethiaid ac is-benaethiaid Estyn a geir yn y Grŵp, ar y cyfan; 3. Maer Undeb Prifysgolion a Cholegau wedii eithrio o gymryd rhan yn y Grŵp Cynghori er ei fod wedi gwneud sawl cais i Estyn.

 

Prif ddeisebydd:  Ian Whitehead-Ross

 

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 11 Mawrth 2014

 

Nifer y llofnodion: 145

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 07/03/2014