Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - y Senedd

Cyswllt: Naomi Stocks  Deputy Clerk: Kayleigh Driscoll

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

Trawsgrifiad

(09.10)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Cafwyd ymddiheuriadau gan Bethan Jenkins AC; bu Lindsay Whittle AC yn dirprwyo ar ei rhan.

 

(09.10 - 09.20)

2.

P-04-432 Atal Recriwtio i’r Fyddin mewn Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu Aelodau’n trafod y sesiwn dystiolaeth a gynhaliwyd ar 2 Mehefin. Cytunodd yr Aelodau:

 

  • i ysgrifennu at y Weinyddiaeth Amddiffyn er mwyn cael rhagor o wybodaeth am yr ‘allbynnau’ a ddymunir wrth ymgysylltu â phobl ifanc mewn ysgolion;
  • i ymgysylltu ag Ysgol Uwchradd y Rhyl, naill ai drwy gynnal ymweliad neu drwy gymryd tystiolaeth fideo, a hynny er mwyn deall ymgysylltiad yr ysgol gyda’r lluoedd arfog; ac
  • i ysgrifennu at Gyrfa Cymru, gan ofyn i’r sefydliad am wybodaeth am ba fathau eraill o gyflogwyr sy’n ymweld ag ysgolion.

(09.20 - 09.25)

3.

Deisebau newydd

3.1

P-04-493 Moratoriwm ar Gynlluniau Datblygu Lleol mewn Rhanbarthau Dinesig posibl

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb am y tro cyntaf, a chytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y Gweinidog Tai ac Adfywio er mwyn ceisio ei farn arni.

(09.25 - 10.00)

4.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

4.1

P-04-462 Gwahardd codi baner y Deyrnas Unedig ar adeiladau swyddogol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb, a chytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb yng ngoleuni bwriad y Llywodraeth i barhau i godi baner y Deyrnas Unedig.

4.2

P-04-333 Rhoi diwedd ar esgeuluso a gadael ceffylau a merlod drwy orfodi deddfwriaeth ar ddefnyddio microsglodion.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb, a chytunodd yr Aelodau i aros i’r dadansoddiad o’r ymgynghoriad gael ei gyhoeddi.

4.3

P-04-399 Arferion lladd anifeiliaid

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb, a chytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, gan ofyn iddo am amserlen ar gyfer trafod y mater hwn.

4.4

P-04-433 Teledu Cylch Cyfyng mewn Lladd-dai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb, a chytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, gan ofyn iddo am amserlen ar gyfer trafod y mater hwn a chan nodi’r wybodaeth ychwanegol a gafwyd gan y deisebydd.

4.5

P-04-445 Achub ein cŵn a chathod yng Nghymru rhag cael eu lladd ar y ffyrdd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb, a chytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd, gan nodi’r ffaith fod Companion Animal Welfare Council yn gefnogol o amcanion y ddeiseb ac yn gofyn iddo a fydd y mater hwn yn cael ei ystyried ymhellach.

4.6

P-04-363 Cynllun i Wella Canol Tref Abergwaun

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb, a chytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at:

 

·                     Gonsortiwm Cludiant Integredig De-orllewin Cymru, gan ofyn iddo am y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed ar gynigion Abergwaun; a

·                     Chyngor Sir Penfro, gan nodi gohebiaeth Llywodraeth Cymru a chan annog y cyngor i ddatblygu’r gwaith hwn fel rhan o’r fframwaith adfywio newydd.

4.7

P-04-380 Dewch â'n bws yn ôl! Deiseb yn erbyn diddymu’r gwasanaethau bws o ddwyrain Llanbedr Pont Steffan, Cwm-ann a Phencarreg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb, a chytunodd yr Aelodau i’w chau yn sgîl y diffyg ymateb gan y deisebydd. 

4.8

P-04-459 Cysylltiad rheilffordd uniongyrchol o Faes Awyr Caerdydd i ganol Caerdydd a gorllewin Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ynghylch y ddeiseb, a chytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y Gweinidog Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth, gan ofyn iddi am y wybodaeth ddiweddaraf am ei hymateb i’r adroddiad gan y tasglu ar drafnidiaeth integredig yn ne ddwyrain Cymru.

4.9

P-04-417 Achubwch Draeth Morfa ac ataliwch Lwybrau Troed Cyhoeddus 92 a 93 rhag cau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb, a chytunodd yr Aelodau i’w chau yn sgîl y ffaith fod yr Arolygiaeth Gynllunio yn parhau i ystyried y mater hwn.

4.10

P-04-423 Cartref Nyrsio Brooklands

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb, a chytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Gyngor Sir Penfro, gan ofyn iddo a oes cynlluniau i ailgyflwyno cais cynllunio. Cytunwyd y byddai Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn cael ei gynnwys yn yr ohebiaeth hon.

 

4.11

P-04-473 Cymorth Ariannol ar gyfer yr Ymchwiliad Cyhoeddus i Ffermydd Gwynt

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd William Powell a Russell George fuddiant fel aelodau o Gyngor Sir Powys.

 

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ar y ddeiseb, a chytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Lywodraeth y DU ynghylch pryderon y deisebydd am gyllido’r ymchwiliad.

4.12

P-04-440 Dywedwch ‘Na’ i werthu asedau Ysbyty Bronllys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ar y ddeiseb, a chytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Lleol Powys i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau sy’n berthnasol i Fronllys.

 

4.13

P-04-471 Deddfwriaeth Orfodol i Sicrhau Bod Diffibrilwyr ar Gael Ym Mhob Man Cyhoeddus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ar y ddeiseb, a chytunodd yr Aelodau:

 

·         i ysgrifennu at Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Sefydliad Prydeinig y Galon a phob bwrdd iechyd lleol, gan ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran adolygu’r ddarpariaeth o ddiffibrilwyr mewn mannau cyhoeddus; ac

·         i aros am yr ymatebion sydd eto i ddod i law.

4.14

P-04-481 Cau'r bwlch ar gyfer disgyblion byddar yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod gohebiaeth ar y ddeiseb, a chytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y rhanddeiliaid a ganlyn, gan geisio eu barn ar y mater hwn:

 

·                     Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru;

·                     Action on Hearing Loss;

·                     Llywodraethwyr Cymru; a

·                     Chadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar faterion sy’n ymwneud â bod yn fyddar.

4.15

P-04-397 Cyflog Byw

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu’r Pwyllgor yn trafod y ddeiseb, a chytunodd yr Aelodau i geisio ymateb gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi.

10.00 - 10.30

5.

P-04-456 Dementia - Gallai hyn ddigwydd i chi: Sesiwn Dystiolaeth

Helen Jones – Prif Ddeisebydd

 

Tony Alexander – Adfocad gyda'r Gymdeithas Alzheimers

 

Lisa Morgan – Hugh James, Cyfreithwyr

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Atebodd Helen Jones, Tony Alexander a Lisa Morgan gwestiynau gan y Pwyllgor.