Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Naomi Stocks
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/11/2019 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30 - 11.00) |
Briffio technegol ar Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) Cofnodion: 1.1
Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio dechnegol ar Fil Llywodraeth Leol ac
Etholiadau (Cymru). |
|
(11.00 - 11.30) |
Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru): ystyried y dull o graffu Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.2
Trafododd y Pwyllgor ei ddull gweithredu ar gyfer gwaith craffu ar Fil
Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), a chytunodd arno. |
|
(11.45) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 3.1
Oherwydd bod John Griffiths AC, Cadeirydd y Pwyllgor, wedi anfon ei
ymddiheuriadau, gofynnodd y Clerc am enwebiadau ar gyfer ethol Cadeirydd dros
dro. Yn unol â Rheol Sefydlog 17.22. Cafodd Dawn Bowden ei henwebu gan Caroline
Jones, ac fe’i hetholwyd yn briodol. 3.2
Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a'r cyhoedd i'r cyfarfod. 3.3 Cafwyd ymddiheuriadau am absenoldeb
gan Leanne Wood AC. |
|
(11.45 - 13.00) |
Dilyniant i ddiogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn - Sesiwn graffu gyda’r Gweinidog Julie James
AC, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Clare Severn, Pennaeth y Rhaglen Diogelwch Adeiladau Francois Samuel, Pennaeth Polisi Rheoliadau Adeiladu Steve Bryant, Cynghorydd Cynorthwyol Tân ac Achub Steve Pomeroy, Pennaeth y Gangen Gwasanaethau Tân ac
Achub Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Julie James, y Gweinidog
Tai a Llywodraeth Leol. 4.2 Cafodd y sesiwn hon ei gohirio a'i hail-drefnu ar
gyfer dydd Iau 5 Rhagfyr. |
|
(13.00 - 13.05) |
Papurau i'w nodi Dogfennau ategol: |
|
Gohebiaeth â'r Llywydd ynghylch amserlen Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) - 12 Tachwedd 2019 Dogfennau ategol: Cofnodion: ·
5.1a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
â'r Llywydd ynghylch amserlen Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru). |
||
Gohebiaeth â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ynghylch adroddiad Cenedlaethau’r Dyfodol – 14 Tachwedd 2019 Dogfennau ategol: Cofnodion: ·
5.2a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth
â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yng Nghymru ynghylch adroddiad
Cenedlaethau’r Dyfodol. |
||
(13.05) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. Cofnodion: 6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
(13.05 - 13.20) |
Dilyniant i ddiogelwch tân mewn adeiladau uchel iawn - trafod y dystiolaeth Cofnodion: |