Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Llinos Madeley
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/10/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Cafwyd
ymddiheuriadau gan Dawn Bowden AC a Hefin David AC. Dirprwyodd Rhianon Passmore
ar ran Dawn Bowden. |
|
(09.30 - 10.30) |
Ymchwiliad i Hawliau Plant yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 1 Grŵp
Monitro Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yng Nghymru Sean
O'Neil, Cyfarwyddwr Polisi, Plant yng Nghymru Tim Ruscoe,
Swyddog Materion Cyhoeddus a Chyfranogiad, Barnardo's Cymru Dr Simon
Hoffman, Athro Cyswllt, Prifysgol Abertawe Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Grŵp
Monitro Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yng Nghymru. 2.2 Gwnaethant
gytuno i ddarparu enghreifftiau o'u hymchwil ddiweddar (ar ran y Comisiwn
Cydraddoldeb a Hawliau Dynol) o Asesiadau Effaith Hawliau Plant a gwblhawyd yn
ôl-weithredol ar ôl i bolisi gael ei gyflwyno. |
|
(10.30 - 11.10) |
Ymchwiliad i Hawliau Plant yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 2 Ysbyty
Arch Noa i Blant Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Clywodd
y Pwyllgor dystiolaeth gan Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru. |
|
(11.20 - 12.00) |
Ymchwiliad i Hawliau Plant yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 3 Y Comisiwn
Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Melissa
Wood, Uwch Gydymaith Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y
Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. 4.2 Gwnaethant gytuno i ddarparu enghreifftiau
rhyngwladol o sut mae mecanweithiau cenedlaethol ar gyfer gweithredu
argymhellion y Cenhedloedd Unedig, adrodd arnynt a chynnal gwaith dilynol yn eu
cylch yn gweithredu'n ymarferol. |
|
(12.00 - 12.40) |
Ymchwiliad i Hawliau Plant yng Nghymru - sesiwn dystiolaeth 4 Comisiynydd
Plant Cymru Sally Holland,
Comisiynydd Plant Cymru Rachel Thomas,
Pennaeth Polisi a Materion Cyhoeddus Dogfennau ategol: Cofnodion: 5.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Gomisiynydd Plant Cymru. |
|
(12.40) |
Papurau i’w nodi Cofnodion: 6.1 Cafodd y papurau
eu nodi. |
|
Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Y wybodaeth ddiweddaraf am Iechyd Meddwl Amenedigol Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus – Plant sy’n derbyn gofal Dogfennau ategol: |
||
Llythyr gan Lywodraeth Cymru - cyfarfod pedairochrog â'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Dogfennau ategol: |
||
(12.40) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 7.1 Derbyniwyd y
cynnig. |
|
(12.40 - 12.45) |
Ymchwiliad i Hawliau Plant yng Nghymru - trafod y dystiolaeth Cofnodion: 8.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn. |