Y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â gadael yr Undeb Ewropeaidd (Brexit)

Y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â gadael yr Undeb Ewropeaidd (Brexit)

 

Y cefndir

 

Yn dilyn y bleidlais i adael yr UE yn y Refferendwm a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2016, sefydlwyd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol i edrych ar y goblygiadau i Gymru wrth i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.

 

Bydd Gwasanaeth Ymchwil Senedd yn cyhoeddi diweddariadau rheolaidd wrth i'r broses o adael fynd rhagddi dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf.

 

Os hoffech inni anfon hwn atoch, e-bostiwch 

SeneddMADY@cynulliad.cymru

 

Y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â gadael yr Undeb Ewropeaidd (Brexit)

 

Mae’r diweddariad Brexit yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau sy’n berthnasol i Gymru o ran gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae’n cynnwys adrannau ar waith y Senedd a Llywodraeth Cymru, yr UE, y DU, yr Alban, ac Iwerddon. Gellir gweld y rhifyn diweddaraf yma:

 

Y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â gadael yr Undeb Ewropeaidd – 18 Mawrth 2020

 

 

Adroddiad monitro ynglŷn a gadael â’r Undeb Ewropeaidd

 

Mae adroddiad monitro Brexit yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am drafodaethau ymadael Llywodraeth y DU â'r UE. Yn y papur hwn ceir crynodeb o’r datblygiadau, y dogfennau a’r ddeddfwriaeth ddiweddaraf. Ceir ynddo hefyd ddadansoddiad o’r prif faterion sydd o ddiddordeb i’r Pwyllgor Materion Allanol a chrynodeb o ymateb Llywodraeth Cymru i’r datblygiadau diweddaraf. Gellir gweld yr adroddiad monitro diweddaraf yma:

 

Adroddiad monitro ynglŷn a gadael â’r Undeb Ewropeaidd 2 Mehefin

 

 

 

 

 

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 29/09/2016

Papurau cefndir