Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Y Siambr - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Amseriad disgwyliedig: 150(v4)
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/07/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(45 munud) |
Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Dogfennau ategol: Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
13.30 Gofynnwyd yr 8 cwestiwn
cyntaf. Atebwyd cwestiwn 6 gan y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon. Gwahoddodd
y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet a’r
Gweinidog ar ôl cwestiwn 2. |
|
(30 munud) |
Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn
cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.22 Gofynnwyd y 6 chwestiwn.
|
|
(20 muned) |
Cwestiynau Amserol [Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a
Thrafnidiaeth: David Rees (Aberafan): Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y caiff
y cyhoeddiad wythnos ddiwethaf ynghylch uno TATA steel a Thyssenkrupp ar y
diwydiant dur yng Nghymru? Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addsyg: Caiff
y cwestiwn isod ei ateb gan: Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni): Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i'r sylwadau a wnaed gan berchennog
Trago Mills fod arwyddion Cymraeg yn annibendod gweledol? Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a
Gwasanaethau Cyhoeddus: Sian
Gwenllian (Arfon): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet
ddatganiad am gynlluniau adrefnu llywodraeth leol yn dilyn ei sylwadau yng
nghynhadledd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ar 29 Mehefin 2018? Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a
Gwasanaethau Cyhoeddus: Vikki
Howells (Cwm Cynon): A wnaiff Llywodraeth Cymru
ddatganiad am yr achosion diweddar o danau gwair sydd wedi effeithio ar
gymunedau ledled Cymru? Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
14.43 Gofyn i Ysgrifennydd y
Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: David Rees (Aberafan): Pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y caiff
y cyhoeddiad wythnos ddiwethaf ynghylch uno TATA steel a Thyssenkrupp ar y
diwydiant dur yng Nghymru? Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addsyg: Atebwyd gan: Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Dawn Bowden (Merthyr
Tudful a Rhymni): Beth yw ymateb Llywodraeth Cymru i'r sylwadau a wnaed
gan berchennog Trago Mills fod arwyddion Cymraeg yn annibendod gweledol? Gofyn i Ysgrifennydd y
Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Sian Gwenllian (Arfon): A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau
adrefnu llywodraeth leol yn dilyn ei sylwadau yng nghynhadledd Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru ar 29 Mehefin 2018? Gofyn i Ysgrifennydd y
Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Vikki Howells (Cwm Cynon): A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am yr achosion
diweddar o danau gwair sydd wedi effeithio ar gymunedau ledled Cymru? |
|
(5 munud) |
Datganiadau 90 Eiliad Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am
15.14 Gwnaeth
David Rees ddatganiad ar gydnabod cyfraniad y Dr Julian Tudor Hart i ofal
iechyd yn Nyffryn Afan a sefydlu’r ddeddf gofal gwrthgyfartal a gydnabyddir gan
lawer, erbyn hyn, fel deddf a oedd yn chwyldroadol ar y pryd. Bu farw’r
Dr Hart dros y penwythnos.
Gwnaeth
Vikki Howells ddatganiad ar 90 mlynedd ers Deddf Gwnaeth
Janet Finch-Saunders ddatganiad ar Ddiwrnod y Lluoedd Arfog 2018. |
|
(60 munud) |
Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei ymchwiliad i Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc NDM6756
Lynne Neagle (Torfaen) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
ar Iechyd Emosiynol ac Iechyd Medwl Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru a osodwyd
yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Ebrill 2018. Nodyn: Gosodwyd
ymateb Llywodraeth Cymru ar 27 Mehefin 2018. Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 15.21 NDM6756 Lynne Neagle (Torfaen) Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru: Yn nodi adroddiad y
Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Iechyd Emosiynol ac Iechyd Medwl Plant
a Phobl Ifanc yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Ebrill 2018. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
(60 munud) |
Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Carillion a Capita NDM6740
Lee Waters (Llanelli) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi adroddiad ymchwiliad ar y cyd Pwyllgor Busnes,
Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol a Phwyllgor Gwaith a Phensiynau Tŷ'r
Cyffredin ar y gwersi i'w dysgu yn sgil methiant Carillion. 2. Yn cydnabod adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol
ar sut y mae GIG Lloegr yn rheoli'r contract gwasanaethau cymorth gofal
sylfaenol gyda Capita. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi dadansoddiad
o'r gwersi i Gymru o'r ddau adroddiad hyn. Tŷ'r
Cyffredin - Y Pwyllgor Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol / Y Pwyllgor
Gwaith a Phensiynau - Carillion (Saesneg yn unig) Swyddfa
Archwilio Cymru - 'NHS England’s management of the primary care support
services contract with Capita' (Saesneg yn unig) Cyd-gyflwynwyr Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 16.39 NDM6740 Lee Waters (Llanelli) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn nodi adroddiad ymchwiliad ar y cyd Pwyllgor Busnes, Ynni a
Strategaeth Ddiwydiannol a Phwyllgor Gwaith a Phensiynau Tŷ'r Cyffredin ar
y gwersi i'w dysgu yn sgil methiant Carillion. 2. Yn cydnabod adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ar sut y mae
GIG Lloegr yn rheoli'r contract gwasanaethau cymorth gofal sylfaenol gyda
Capita. 3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi dadansoddiad o'r gwersi i Gymru
o'r ddau adroddiad hyn. Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36. |
|
Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - Da byw yn yr ucheldir - Gohiriwyd tan 19 Medi NDM6757 Caroline Jones (Gorllewin De Cymru)
Mae
Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1.
Yn credu y dylid dychwelyd defaid, y cyfeiriwyd atynt yn y gorffennol fel cynrhon
gwlanog, i fryniau Cymru. 2.
Yn gresynu at y ffaith bod y penderfyniad i ddileu hawliau pori ar ucheldiroedd
Cymru wedi arwain at ddifrod enfawr i ucheldiroedd Cymru, bywyd gwyllt a'r
amgylchedd yn gyffredinol. 3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gael gwared ar unrhyw gymhellion sy'n annog symud
anifeiliaid byw o ardaloedd yr ucheldir ac, yn lle hynny, darparu cymhellion i
ailboblogi'r ardaloedd hynny ag anifeiliaid byw. Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn: Gwelliant
1 - Paul
Davies (Preseli Sir Benfro) Dileu popeth a rhoi yn
ei le: 1. Yn nodi pwysigrwydd
ffermio mynydd i gymunedau gwledig a'r economi wledig. 2. Yn cydnabod yr
heriau sy'n wynebu ffermwyr mynydd yng Nghymru ar gyfer y dyfodol, fel yr
amlygwyd yn yr adroddiad 'The Future of the Welsh Uplands after the Common
Agricultural Policy'. 3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r diwydiant i ddatblygu polisi ar gyfer ffermio
mynydd yng Nghymru sy'n gwarchod ei gynaliadwyedd ar gyfer y dyfodol. The
Future of the Welsh Uplands after the Common Agricultural Policy (Saesneg
yn unig) |
||
Cyfnod pleidleisio Cofnodion: Nid oedd cyfnod pleidleisio. |
||
(30 munud) |
Dadl Fer NDM6758 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) Mynd
i'r afael â thlodi plant yng Nghymru: ystyr ystadegau yn ymarferol; rôl
Llywodraeth Cymru; ac effaith Brexit ar yr agenda tlodi plant Cofnodion: Dechreuodd yr eitem am 17.29 NDM6758 Llyr Gruffydd (Gogledd
Cymru) Mynd i'r afael â thlodi plant yng Nghymru: ystyr ystadegau yn ymarferol;
rôl Llywodraeth Cymru; ac effaith Brexit ar yr agenda tlodi plant. |