NDM6757 Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - Da byw yn yr ucheldir
NDM6757 Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig - Da byw yn yr ucheldir
NDM6757 Caroline Jones
(Gorllewin De Cymru)
Mae
Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn credu y dylid dychwelyd defaid, y cyfeiriwyd atynt yn y gorffennol fel
cynrhon gwlanog, i fryniau Cymru.
2.
Yn gresynu at y ffaith bod y penderfyniad i ddileu hawliau pori ar ucheldiroedd
Cymru wedi arwain at ddifrod enfawr i ucheldiroedd Cymru, bywyd gwyllt a'r
amgylchedd yn gyffredinol.
3.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gael gwared ar unrhyw gymhellion sy'n annog symud
anifeiliaid byw o ardaloedd yr ucheldir ac, yn lle hynny, darparu cymhellion i
ailboblogi'r ardaloedd hynny ag anifeiliaid byw.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant
1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu popeth a rhoi yn
ei le:
1. Yn nodi pwysigrwydd
ffermio mynydd i gymunedau gwledig a'r economi wledig.
2. Yn cydnabod yr
heriau sy'n wynebu ffermwyr mynydd yng Nghymru ar gyfer y dyfodol, fel yr
amlygwyd yn yr adroddiad 'The Future of the Welsh Uplands after the Common
Agricultural Policy'.
3. Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r diwydiant i ddatblygu polisi ar gyfer ffermio
mynydd yng Nghymru sy'n gwarchod ei gynaliadwyedd ar gyfer y dyfodol.
The Future of the Welsh Uplands after the Common
Agricultural Policy (Saesneg yn unig)
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 25/07/2024
Angen Penderfyniad: 4 Gorff 2018 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Caroline Jones AS