Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/03/2024 - Y Pwyllgor Deisebau

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

Cafwyd ymddiheuriad gan Joel James AS.

Roedd Altaf Hussain AS yn bresennol yn y cyfarfod, yn dirprwyo ar ran Joel James AS.

 

Roedd Rhys ab Owen AS yn absennol.

2.

Sesiwn dystiolaeth - Trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl ifanc

Carole Stewart, Transport Scotland

 

Confederation of Passenger Transport (CPT)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Carole Stewart a Gillian Kelly o Transport Scotland a Paul White o Gonffederasiwn Cludiant Teithwyr yr Alban.

3.

Deisebau newydd

3.1

P-06-1395 Atal datblygiadau newydd sylweddol ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Gwastadeddau Gwent

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd i ofyn nifer o gwestiynau penodol a godwyd gan y deisebwyr ac Aelodau’r Pwyllgor, cyn penderfynu a ddylid cymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r ddeiseb.

 

Cytunodd yr Aelodau i anfon y llythyr at y Gweinidog ar ôl i drafodion cyfnod 3 Bil Seilwaith (Cymru) gael eu cynnal yn y cyfarfod llawn (19 Mawrth 2024).   

3.2

P-06-1404 Cynyddu eglurder a hawliau’r rhai sy’n cael taliadau uniongyrchol neu Grant Byw’n Annibynnol Cymru er mwyn iddynt fyw'n annibynnol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod disgwyl i ddeddfwriaeth ar ofal cymdeithasol gael ei chyflwyno ar ôl y Pasg. Yng ngoleuni hyn, cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i godi ymwybyddiaeth o'r materion a amlinellwyd yn y ddeiseb a rôl bosibl y Bil wrth fynd i'r afael â hwy.

3.3

P-06-1406 Cosbau ariannol i Awdurdodau Addysg Lleol nad ydynt yn cydymffurfio â'r amserlenni ar gyfer Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i godi'r materion a amlinellwyd yn ystod dadl y Pwyllgor Deisebau sydd i ddod ar P-06-1392 Diwygio Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021.

At hynny, cytunodd yr Aelodau i dynnu sylw Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at y ddeiseb.

3.4

P-06-1408 Dylid gwneud y mynediad i Ardd Gudd A4042 Goetre Fawr yn ddiogel ar gyfer cerddwyr a cherbydau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chroesawodd y datblygiad o gynnal astudiaeth ddichonoldeb gyda'r bwriad o wneud y gwelliannau y tynnwyd sylw atynt yn y ddeiseb. Yn sgil hyn, cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb a llongyfarch y deisebydd.

Cytunodd yr Aelodau hefyd i anfon y pwyntiau a'r cwestiynau pellach a godwyd gan y deisebydd at y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ac anfon copi at yr awdurdod lleol.

4.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

4.1

P-06-1326 Dylai'r Senedd graffu ar y sgandal mesuryddion rhagdalu yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd yr ymatebion a ddaeth i law gan Lywodraeth Cymru ac Ofgem, ac y bydd y Senedd yn trafod adroddiad y Pwyllgor ar 1 Mai 2024.

4.2

P-06-1359 Dylid cynnig yr un cymorth ariannol ar gyfer gofal plant i rieni sy'n gweithio yng Nghymru â'r hyn sydd ar gael yn Lloegr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-06-1362 Dylid darparu cynnig cyfatebol yng Nghymru i’r cynnig gofal plant newydd yn Lloegr, sef 15 awr, ar gyfer plant 2 flwydd oed o fis Ebrill 2024 a nododd y ddadl yn y Senedd a glywodd bryderon rhieni ledled Cymru.

 

Yn sgil y ddadl ac ymateb y Gweinidog, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebwyr am godi’r mater pwysig.

 

Yn ogystal â chau’r ddeiseb, cytunodd y Pwyllgor i barhau i frwydro dros hawliau rhieni sy’n gweithio ledled Cymru, yn rhinwedd eu rôl fel Aelodau unigol o’r Senedd.

 

4.3

P-06-1362 Dylid darparu cynnig cyfatebol yng Nghymru i'r cynnig gofal plant newydd yn Lloegr, sef 15 awr, ar gyfer plant 2 flwydd oed o fis Ebrill 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-06-1359 Dylid cynnig yr un cymorth ariannol ar gyfer gofal plant i rieni sy'n gweithio yng Nghymru â'r hyn sydd ar gael yn Lloegr a nododd y ddadl yn y Senedd a glywodd bryderon rhieni ledled Cymru.

 

Yn sgil y ddadl ac ymateb y Gweinidog, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebwyr am godi’r mater pwysig.

 

Yn ogystal â chau’r ddeiseb, cytunodd y Pwyllgor i barhau i frwydro dros hawliau rhieni sy’n gweithio ledled Cymru, yn rhinwedd eu rôl fel Aelodau unigol o’r Senedd.

4.4

P-06-1369 Defnyddiwch enwau Cymraeg yn unig ar gyfer lleoedd yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg ac Addysg i ofyn am ragor o fanylion am waith ac adroddiadau ar y goblygiadau o ran defnyddio enwau lleoedd Cymraeg ac unrhyw argymhellion a wnaed ac amserlenni ar gyfer gweithredu.

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

6.

Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd.