P-06-1404 Cynyddu eglurder a hawliau'r rhai sy'n cael taliadau uniongyrchol neu Grant Byw'n Annibynnol Cymru er mwyn iddynt fyw'n annibynnol

P-06-1404 Cynyddu eglurder a hawliau'r rhai sy'n cael taliadau uniongyrchol neu Grant Byw'n Annibynnol Cymru er mwyn iddynt fyw'n annibynnol

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Nathan Lee Davies, ar ôl casglu 377 o lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Mae anghydbwysedd pŵer yn erbyn pobl anabl. Nid yw awdurdodau lleol yn llwyddo i ddarparu gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar lesiant, rhoi llais a rheolaeth a chydgynhyrchu - egwyddorion craidd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014. Mae angen tegwch a

 

  • Chymorth eirioli gwell ac mae angen corff cenedlaethol i gynrychioli llais defnyddwyr Taliadau Uniongyrchol
  • Proses datrys anghydfod
  • Dulliau cyfathrebu gwell
  • Paneli cwynion awdurdodau lleol sy’n gwybod am y gyfraith a’r polisïau yng Nghymru
  • Ailhyfforddi staff ALl i sicrhau eu bod yn deall ysbryd a bwriad y Ddeddf.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

I ddyfynnu'r Adroddiad Gwerthuso Terfynol ar Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 para 6.60: “I'r mwyafrif o ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr a gyfwelwyd ar gyfer y gwerthusiad hwn, roedd eu profiad yn un o rwystredigaeth.  Yn hytrach na'r gobaith a gynigwyd gan y Ddeddf, roedden nhw'n gweld cyfres o rwystrau.  Roedd y rhain yn cynnwys agwedd gymharol ‘tocynistaidd’ at wrando, anghydbwysedd grym rhyngddyn nhw a gweithwyr proffesiynol, yr angen i orfod ceisio galw gweithwyr proffesiynol yn barhaus am gymorth, a diffyg cydnabyddiaeth o’u hawliau yn enwedig o ran materion bod yn sensitif i'r hinsawdd ymhlith pethau eraill.  Roedd y rhwystrau hyn yn gweithio yn erbyn y profiad oedd yn cael ei ‘gynnig’ a'i ‘addo’ gan egwyddorion sylfaenol y Ddeddf.”

Mae pobl anabl yn wynebu loteri cod post o ran y wybodaeth a'r gwasanaethau y gallant eu disgwyl. Mae angen gweithredu nawr.

Siawns bod arian Grant Byw'n Annibynnol Cymru  wedi'i glustnodi ac na all unrhyw Gyngor ei adfachu ar fympwy? Beth ddigwyddodd i’r syniad o gydgynhyrchu?

Gweler cynsail cyfreithiol R (BG) V Cyngor Swydd Suffolk 2021 [EWHC] 3368 (Admin).

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Wrecsam
  • Gogledd Cymru

         

Rhagor o wybodaeth

 

 

 

Math o fusnes: Gwelliant

Cyhoeddwyd gyntaf: 14/03/2024