Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/11/2024 - Y Pwyllgor Deisebau

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

2.

Deisebau newydd

2.1

P-06-1430 Cefnogi plant byddar trwy wneud ymrwymiad ariannol i adfer niferoedd athrawon plant byddar

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cyfarfu'r Pwyllgor â deisebwyr cyn y cyfarfod a diolch iddynt am rannu eu profiadau. Mynegodd yr Aelodau bryder y deisebwyr o ran plant byddar yn cael cymorth cyn gynted â phosibl, a hefyd o ran bod hyfforddiant Athrawon Plant Byddar ar gael yng Nghymru yn ogystal â Lloegr.

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg i ofyn iddi ystyried ac ailystyried penderfyniad Llywodraeth Cymru i wrthod argymhelliad 32 o adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ynghylch mynediad i addysg. Cytunodd y Cadeirydd y byddai'n siarad yn ystod y ddadl ar yr adroddiad i dynnu sylw at y ddeiseb. Cytunodd yr Aelodau i gadw'r ddeiseb yn agored gan eu bod o’r farn y gellir gwneud rhagor o waith ar y mater.

 

2.2

P-06-1460 Ystyried opsiynau i drosglwyddo perchnogaeth asedau hanesyddol o Ystad y Goron i Lywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau y ddeiseb. Roedd gwahaniaeth barn ar ddatganoli Ystad y Goron i Gymru, a nodwyd na fyddai rheolaeth y cestyll o ddydd i ddydd (gan Cadw) yn newid hyd yn oed pe bai’r ddeiseb yn llwyddiannus. At hynny, nodwyd bod yr asedau hanesyddol yn faterion diriaethol hollol wahanol i ddatganoli mewn meysydd megis ynni. Fodd bynnag, penderfyniad y mwyafrif oedd diolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb, gan fod y mater yn cael ei drafod yn rheolaidd yn y Senedd – nid oedd angen gadael y ddeiseb ar agor er mwyn i’r trafodaethau hynny barhau – a byddai’r Aelodau’n cadw llygad ar y mater hwn i weld beth ddigwyddodd.

 

2.3

P-06-1464 Caniatáu i deuluoedd Cymru sydd wedi colli baban cyn 24 wythnos gael tystysgrif colli baban.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cydnabu'r aelodau sensitifrwydd y mater a nodwyd bod y gallu i ofyn am dystysgrif yn bwysig iawn, gan y byddai rhai rhieni, ond nid o reidrwydd pob un, yn cael bod tystysgrif o'r fath yn ddefnyddiol. Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol i ofyn pryd y bydd penderfyniad yn cael ei wneud ar sicrhau bod tystysgrifau colli babanod ar gael yng Nghymru. At hynny, cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i dynnu sylw at y ddeiseb.

 

 

2.4

P-06-1465 Gwnewch Herwgydio Anifeiliaid Anwes yn Drosedd Benodol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Wrth drafod y ddeiseb, nododd yr Aelodau fod eisoes gan Lywodraeth Cymru raglen brysur o ddeddfwriaeth wedi’i chynllunio, ac amser cyfyngedig cyn diwedd y Senedd. Codwyd y posibilrwydd y gallai Llywodraeth Cymru gefnogi Bil ar y mater hwn a gynigiwyd gan AS o’r meinciau cefn yn y drafodaeth. Cytunodd y Pwyllgor fod lle i godi ymwybyddiaeth o’r mater, ond nad oedd llawer mwy y gallai’r Pwyllgor ei wneud. Yn sgil hyn, penderfynodd y Pwyllgor gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

 

2.5

P-06-1471 Gwahardd Ambiwlansys rhag cael eu defnyddio fel gwelyau ychwanegol ar gyfer ysbytai

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor fod y mater o fewn cylch gorchwyl y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac eisoes yn rhywbeth yr oeddent yn ei fonitro. Penderfynodd yr Aelodau ysgrifennu at y Pwyllgor hwnnw i dynnu sylw at y ddeiseb i'w hystyried fel rhan o'u gwaith craffu. Yn sgil hynny, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb. 

 

2.6

P-06-1472 Rhaid diogelu ein bywyd gwyllt ... dylid gwahardd glaswellt plastig yng Nghymru!

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod effeithiau amgylcheddol glaswellt artiffisial yn peri cryn bryder, a diolchodd i'r deisebwyr am dynnu sylw at y broblem. Mae ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd yn tynnu sylw at y ffaith bod y mater ar agenda Llywodraeth Cymru ac y cynhelir digwyddiad microblastigau ym mis Mawrth 2025.

 

Cytunodd y Pwyllgor i gadw’r ddeiseb yn agored ac i ysgrifennu’n ôl at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am ganlyniad y digwyddiad microblastigau. At hynny, cytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ysgrifennu at y deisebydd i'w hysbysu am y prosiect ‘Iddyn Nhw’.

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-06-1329 Gosod uchelgais ac amserlen glir i roi addysg cyfrwng Cymraeg i bob plentyn yn y wlad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd yr Aelodau, ers ystyried y ddeiseb hon ddiwethaf, fod Llywodraeth Cymru wedi nodi cynigion deddfwriaethol ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg, yr ymgynghorwyd yn eang arnynt, ac sydd bellach yn destun craffu manwl. Yn sgil y datblygiad hwn, cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.

 

3.2

P-06-1387 Darparu cymorth dyngarol i Gaza

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Prif Weinidog i ofyn a oes unrhyw beth pellach y gellid ei wneud i helpu gyda chymorth dyngarol drwy weithio gydag asiantaethau cymorth, ac i anfon copi at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip er gwybodaeth, gan eu bod wedi gohebu yn flaenorol gyda'r Pwyllgor ar y mater hwn.

 

3.3

P-06-1395 Atal datblygiadau newydd sylweddol ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Gwastadeddau Gwent

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Drwy gydol yr holl ohebiaeth ar y mater hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi ailbwysleisio ei bod o’r farn bod y mesurau diogelu presennol ar gyfer Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn ddigonol. Cytunodd y Pwyllgor, felly, nad oedd llawer mwy y gallai ei wneud ar y mater ac yn sgil hynny, penderfynodd gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

3.4

P-06-1474 Atal Cyfoeth Naturiol Cymru rhag cau canolfannau ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, Coed y Brenin ac Ynyslas

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd yd deiseb hon a ‘P-06-1447 Atal Cyfoeth Naturiol Cymru rhag cau’r ganolfan ymwelwyr yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Ynyslas’ eu hystyried ar y cyd.

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd fod ansicrwydd yn dal i fodoli ynghylch dyfodol y canolfannau, a bod y mater yn peri pryder i Aelodau ar draws y siambr. Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Gyfoeth Naturiol Cymru gyda chais y deisebydd: I ofyn iddynt rannu cofnodion ariannol y tair canolfan, eu cynlluniau rheoli ymwelwyr, ac asesiad effaith ar yr hyn y byddai cau yn ei olygu o ran mynediad.

At hynny, cytunodd yr Aelodau  ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd ynghylch pryderon a godwyd gyda’r Pwyllgor gan y deisebwyr ynghylch yr hyn yr oeddent yn ei glywed ar lawr gwlad, gan gynnwys pryderon ynghylch y posibilrwydd o roi’r gorau i gadw’r canolfannau cyn i weithredwyr newydd gymryd drosodd.

 

3.5

P-05-1447 Atal Cyfoeth Naturiol Cymru rhag cau’r ganolfan ymwelwyr yng Ngwarchodfa Natur Genedlaethol Ynyslas

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cafodd y ddeiseb hon a ‘P-06-1474 Atal Cyfoeth Naturiol Cymru rhag cau canolfannau ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian, Coed y Brenin ac Ynyslas’ eu hystyried ar y cyd.

Trafododd y Pwyllgor y deisebau a nododd fod ansicrwydd yn dal i fodoli ynghylch dyfodol y canolfannau, a bod y mater yn peri pryder i Aelodau ar draws y siambr. Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Gyfoeth Naturiol Cymru gyda chais y deisebydd: I ofyn iddynt rannu cofnod ariannol y ganolfan, eu cynllun rheoli ymwelwyr, ac asesiad effaith ar yr hyn y byddai cau yn ei olygu o ran mynediad i’r cyhoedd.

At hynny, cytunodd yr Aelodau  ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd ynghylch pryderon a godwyd gyda’r Pwyllgor gan y deisebwyr, gan gynnwys ynghylch cyfarfodydd bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n cael eu cynnal, a’r posibilrwydd o roi’r gorau i gadw’r canolfannau cyn i weithredwyr newydd gymryd drosodd.

 

3.6

P-06-1346 Darparu trafnidiaeth gyhoeddus am ddim a hygyrch i'r rhai o dan 18 oed yng Nghymru er mwyn lleihau allyriadau carbon a hybu twf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru fod gwaith yn mynd rhagddo, ac y byddai Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) yn mynd drwy'r Senedd. Cytunodd y Cadeirydd i dynnu sylw at y ddeiseb hon a deisebau perthnasol eraill yn y ddadl sydd i ddod ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Gan fod gwaith sylweddol wedi’i wneud ar y mater, cytunodd yr Aelodau nad oedd llawer mwy y gallent ei wneud, a chau’r ddeiseb.

 

3.7

P-06-1264 Gwarantu cludiant ysgol ar gyfer holl ddisgyblion ysgolion cyfun

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd ei fod yn fater o gyllid, ac mai cyfrifoldeb ysgolion a llywodraeth leol oedd cydweithio ar lwybrau diogel i'r ysgol. Roedd yr Aelodau’n cydymdeimlo â’r materion sy’n wynebu plant sy’n gorfod teithio’n bell mewn amodau gwael, a nodwyd y bu gweithgarwch sylweddol mewn perthynas â theithio gan ddysgwyr ers i’r ddeiseb gael ei hystyried gyntaf ym mis Ebrill 2022, gan gynnwys adroddiadau gan Lywodraeth Cymru a Phwyllgor y Senedd.

Nododd y Pwyllgor fod gwaith ar drafnidiaeth bysiau i rai dan 18 oed yn mynd rhagddo, ac y byddai Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) yn mynd drwy’r Senedd. Cytunodd y Cadeirydd i dynnu sylw at y ddeiseb hon a deisebau perthnasol eraill yn y ddadl sydd i ddod ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Yn sgil hynny, a’r ymateb i argymhellion ymchwiliad y Pwyllgor ynghylch y gwaith sy’n mynd rhagddo, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb.

 

3.8

P-06-1343 Darparwch drafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bob disgybl ysgol uwchradd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor fod gwaith ar drafnidiaeth bysiau i rai dan 18 oed yn mynd rhagddo, ac y byddai Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) yn mynd drwy’r Senedd. Cytunodd y Cadeirydd i dynnu sylw at y ddeiseb hon a deisebau perthnasol eraill yn y ddadl sydd i ddod ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Yn sgil hynny, a’r ymateb i argymhellion ymchwiliad y Pwyllgor ynghylch y gwaith sy’n mynd rhagddo, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

3.9

P-06-1372 Achub ein gwasanaeth bysiau hyblyg, Bwcabus

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor fod gwaith ar drafnidiaeth bysiau oedd yn mynd rhagddo, ac y byddai Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) yn mynd drwy’r Senedd. Cytunodd y Cadeirydd i dynnu sylw at y ddeiseb hon a deisebau perthnasol eraill yn y ddadl sydd i ddod ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Yn sgil hyn, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod