P-06-1472 Rhaid diogelu ein bywyd gwyllt ... dylid gwahardd glaswellt plastig yng Nghymru!

P-06-1472 Rhaid diogelu ein bywyd gwyllt ... dylid gwahardd glaswellt plastig yng Nghymru!

Petitions4

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Robert Curtis, ar ôl casglu 338 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

Gwylio aderyn du neu fronfraith yn chwilio am fwydod a thrychfilod ar laswellt artiffisial yw un o’r golygfeydd tristaf ym myd natur! Ni all unrhyw bryfed fyw yno ac ni chynhyrchir hadau na blodau ble y caiff ei ddefnyddio, ac felly mae’n cael gwared ar y ffynhonnell fwyd ar gyfer adar, draenogod, chwistlod, llyffantod, ystlumod, tyrchod daear, gloÿnnod byw, gwenyn a llawer o rywogaethau eraill. Mae hyn yn ychwanegol at y ffaith nad yw glaswellt artiffisial yn amsugno carbon deuocsid, ac yn y pen draw bydd yn creu rhagor o sbwriel plastig na fydd yn pydru am filoedd o flynyddoedd.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Wrth i’n cefn gwlad gael ei drawsnewid fwyfwy ar gyfer ffermio dwys, mae ein bywyd gwyllt yng Nghymru yn dod yn fwyfwy dibynnol ar ein gerddi i gael bwyd. Roedd yr adroddiad arloesol "Sefyllfa Byd Natur" yn ein rhybuddio’n glir bod angen i ni newid y ffordd yr ydym yn byw ein bywydau os ydym am wrthdroi'r gostyngiad dramatig sydd o ran ein bywyd gwyllt.

Mae pryderon gwirioneddol iawn ynghylch yr effaith negyddol y bydd defnyddio glaswellt plastig yn ei chael o ran llygredd micro-blastig a’r perygl o lifogydd sydyn yn y dyfodol.

 

Bydd y gweithgynhyrchwyr yn dadlau nad oes angen dyfrio na defnyddio gwrtaith cemegol gyda glaswellt artiffisial, ond anaml y bydd angen dyfrio lawnt yng Nghymru beth bynnag, ac mae gwrtaith organig y gellir ei ddefnyddio, a gellir gofalu am lawntiau gyda pheiriannau torri gwair trydan sy’n defnyddio ynni adnewyddadwy.

 

Nid oes gennyf amheuaeth, unwaith y bydd pobl yn clywed y ffeithiau llawn am y difrod y mae glaswellt artiffisial yn ei wneud i’n bywyd gwyllt yng Nghymru, y byddent yn dewis garddio’n gynaliadwy. Unwaith eto, gallai Cymru arwain y ffordd ar gyfer gwaharddiadau yn y dyfodol yng ngweddill y DU.

 

Statws 

Yn ei gyfarfod ar 12/05/2025 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod. 

 

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 4/11/2024. 

 

A bird standing in the grass

Description automatically generated

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd:

§  Bro Morgannwg

§  Canol De Cymru

 

[PetitionFooter]

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 21/08/2024