Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Manon George
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
|---|---|---|
09:30 |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1
Croesawodd y Cadeirydd Aelodau’r Pwyllgor i’r cyfarfod. 1.2
Croesawodd y Cadeirydd hefyd Hannah Blythyn AS o Bwyllgor
yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, Mike Hedges AS ac Adam Price AS o'r
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, a Llyr Gruffydd AS o'r
Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, a oedd yn bresennol yn y
Pwyllgor fel rapporteurs ar gyfer eitem 2: Adolygiad o weithrediad y Cytundeb
Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a’r UE. 1.3
Cafwyd ymddiheuriadau gan Lee Waters AS, Mick Antoniw AS,
ac Andrew RT Davies AS. |
|
09:30 - 10:45 |
Adolygiad o weithrediad y Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a’r UE: Sesiwn dystiolaeth gyda Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans AS Rebecca Evans AS
– Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio Andrew Gwatkin – Cyfarwyddwr
– Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach Emily Hole – Pennaeth
Adran Polisi Masnach Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Holodd
Aelodau’r Pwyllgor a’r rapporteurs yr Ysgrifennydd Cabinet a swyddogion
ynghylch yr adolygiad o weithrediad y Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y
DU a’r UE. 2.2 Croesawodd y
Cadeirydd ddirprwyaeth o Lysgenhadon yr UE, a oedd yn yr oriel gyhoeddus i
wylio'r cyfarfod. 2.3 Cytunodd yr
Ysgrifennydd Cabinet i ysgrifennu at y Pwyllgor ynghylch ymgysylltiad
Llywodraeth Cymru â sefydliadau'r UE. 2.4 Cytunodd yr
Ysgrifennydd Cabinet i ysgrifennu at y Pwyllgor yn amlinellu'r ymgysylltiadau y
mae wedi'u cael â Llywodraeth y DU a sefydliadau'r UE ynghylch materion megis
cytundebau glanweithiol a ffytoiechydol, asesiadau cydymffurfiaeth, symudedd, a
gwella canllawiau a thryloywder ar reolau tarddiad, yn ogystal â pha
ymgysylltiad sydd gan Lywodraeth Cymru â sefydliadau'r UE, a pha strwythurau
sy'n bodoli o fewn Llywodraeth Cymru i reoli'r berthynas â sefydliadau'r UE. 2.5 Cytunodd yr
Ysgrifennydd Cabinet i gyflwyno ateb i'r Pwyllgor ynghylch a fydd Llywodraeth
Cymru yn bresennol yn yr uwchgynhadledd ar 19 Mai. 2.6 Cytunodd yr
Ysgrifennydd Cabinet i ofyn i’r Dirprwy Brif Weinidog ddarparu nodyn ar
drafodaethau â Llywodraeth y DU a’r UE ar y cytundeb SPS. |
|
10:45 |
Papurau i'w nodi Cofnodion: 3.1 The papers were noted. |
|
|
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Nodwyd y
papur. |
||
|
Presenoldeb Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cyfnerth (RAAC) Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.2 Nodwyd y
papur a chytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gyngor Caerdydd yn gofyn am y
wybodaeth ddiweddaraf am Neuadd Dewi Sant. |
||
|
Cytundebau rhyngwladol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.3 Nodwyd y
papurau a chytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am
ragor o wybodaeth mewn perthynas â Chytundeb Partneriaeth Can Mlynedd y DU ac
Wcráin. |
||
|
Cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.4 Nodwyd y
papurau. |
||
|
Blaenraglen Waith Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.5 Nodwyd y
papurau a chytunodd y Pwyllgor i ofyn i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a
Gweinyddiaeth Gyhoeddus am y wybodaeth ddiweddaraf am unrhyw waith sydd ar y
gweill ynghylch adroddiad yr Is-adran Ddiwylliant sydd wedi’i ryddhau ar gam a
gofyn i Lywodraeth Cymru a fydd yr Ysgrifennydd Parhaol yn ysgrifennu at y
Pwyllgor am y mater. |
||
10:45 |
Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(vii) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1 Derbyniwyd y
cynnig. |
|
10:45 - 11:05 |
Adolygiad o weithrediad y Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y DU a’r UE: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 5.1 Trafododd
aelodau'r Pwyllgor a’r rapporteurs y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
11:15 - 11:20 |
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Rhif 2 ar y Bil Data (Defnydd a Mynediad): Trafod y Nodyn Cyngor Cyfreithiol a'r adroddiad ddrafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Trafododd yr
Aelodau y Nodyn Cyngor Cyfreithiol a chytunodd yr Aelodau ar yr adroddiad
drafft. |
|
11:20 - 11:40 |
Blaenraglen Waith Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Trafododd yr
Aelodau flaenraglen waith y Pwyllgor ar gyfer tymor yr hydref 2020 a’i derbyn. |
|
11:40 - 12:20 |
Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru: Papur briffio technegol ar y Cynllun i Gyflawni'r Strategaeth Ryngwladol Andrew Gwatkin – Cyfarwyddwr
– Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach David Warren – Pennaeth
Cysylltiadau Rhyngwladol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Cafodd y
Pwyllgor sesiwn friffio dechnegol ar y Cynllun i Gyflawni’r Strategaeth
Ryngwladol gan Lywodraeth Cymru. 8.2 Cytunodd
swyddogion Llywodraeth Cymru i rannu gwybodaeth bellach ynghylch y Cynllun i
Gyflawni'r Strategaeth Ryngwladol. |
|
12:20 - 12:30 |
Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 9.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law |
PDF 139 KB