Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru

Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru

Bydd Strategaeth Ryngwladol 2020 Llywodraeth Cymru a chynlluniau gweithredu cysylltiedig yn dod i ben yn 2025.

 

Bydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol yn ystyried effaith y strategaeth a dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â chysylltiadau rhyngwladol y tu hwnt i 2025.

 

Bydd y Pwyllgor yn edrych yn fanwl ar faterion fel:

>>>> 

>>>Llwyddiant y Strategaeth Ryngwladol a blaenoriaethau ar gyfer cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru y tu hwnt i 2025.

>>>Sut mae perthnasoedd â blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yn cyd-fynd â nodau ac amcanion y strategaeth.

>>>Argaeledd gwybodaeth yn ymwneud â gweithgareddau rhyngwladol Llywodraeth Cymru a chyflawniad y strategaeth.

>>>Dull Llywodraeth Cymru yn y dyfodol o ran cysylltiadau rhyngwladol Cymru.

>>>Sut y darperir adnoddau ar gyfer gweithgarwch cysylltiadau rhyngwladol Llywodraeth Cymru.

<<< 

 

Ar 13 Rhagfyr 2024, cadarnhaodd y Prif Weinidog i’r Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ei bod yn bwriadu cyhoeddi Cynllun Cyflawni Strategaeth Ryngwladol ddechrau 2025. The ISDP will:

 

1. disodli’r cynlluniau ar gyfer gwaith adnewyddu disgwyliedig ar y Strategaeth Ryngwladol;

2. bydd yn nodi gweddill gweithgareddau’r Strategaeth Ryngwladol i’w cyflawni yng ngweddill y Chweched Senedd.

 

Bydd y Pwyllgor yn ystyried y Cynllun Cyflawni Strategaeth Ryngwladol disgwyliedig cyn bwrw ymlaen i gymryd rhagor o dystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad hwn yn nhymor yr haf.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/02/2025

Ymgynghoriadau