Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lleu Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y
Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau
Rhyngwladol. 1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Alun Davies AS. |
|
(09.30 - 10.30) |
Ymchwiliad undydd i ddatblygu’r ddarpariaeth Gymraeg ôl-16: Sesiwn dystiolaeth gyda sefydliadau addysg a hyfforddiant ôl-16 (1) Dafydd Evans,
Prif Swyddog Gweithredol Grŵp Llandrillo Menai, yn cynrychioli
ColegauCymru Lisa Mytton,
Cyfarwyddwr Strategol Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru Dr Ioan Matthews,
Prif Swyddog Gweithredol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol Briff ymchwil Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr
ColegauCymru, Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, a’r Coleg Cymraeg
Cenedlaethol. |
|
(10.40 - 11.15) |
Ymchwiliad undydd i ddatblygu’r ddarpariaeth Gymraeg ôl-16: Sesiwn dystiolaeth gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol (2) Dona Lewis, Prif
Swyddog Gweithredol Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolydd o’r
Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. |
|
(11.15) |
Papur(au) i'w nodi Cofnodion: 4.1 Cafodd y papurau eu nodi. 4.2 Cytunodd y Pwyllgor i drafod yn ei gyfarfod ffurfiol
nesaf ymateb drafft i lythyr y Pwyllgor Cyllid yn gwahodd sylwadau ar gyfer
llywio'r gwaith o graffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. 4.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y
Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol i dynnu sylw at bryderon am
y sector diwylliant yng Nghymru o ganlyniad i doriadau yn y gyllideb, yn
benodol amgueddfeydd. 4.4 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Prif Weinidog
newydd ac Ysgrifenyddion y Cabinet i ailddatgan meysydd blaenoriaeth y Pwyllgor
ar gyfer gweddill y Chweched Senedd. 4.5 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gyngor Llyfrau
Cymru yn dilyn cyhoeddiad y tendr ar gyfer cylchgrawn newydd i Gymru. 4.6 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor
Deisebau yn gofyn am gael y wybodaeth ddiweddaraf am hynt deiseb ar ddarparu
cymorth dyngarol i Gaza. |
|
Cyngor Celfyddydau Cymru: Adolygiad Buddsoddi Dogfennau ategol: |
||
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol Dogfennau ategol:
|
||
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol Dogfennau ategol: |
||
Cyllideb Ddrafft 2024-25 Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol:
|
||
Model cyllido cylchgronnau Cyngor Llyfrau Cymru Dogfennau ategol: |
||
Honiadau’n ymwneud ag Undeb Rygbi Cymru Dogfennau ategol: |
||
Confensiwn UNESCO ar Ddiogelu’r Dreftadaeth Ddiwylliannol Anniriaethol Dogfennau ategol: |
||
P-06-1387 Darparu cymorth dyngarol i Gaza Dogfennau ategol: |
||
(11.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11.15 - 11.30) |
Ymchwiliad undydd i ddatblygu’r ddarpariaeth Gymraeg ôl-16: Trafod y dystiolaeth Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law, a
chytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru gyda chyfres o gwestiynau. |
|
(11.30 - 12.00) |
Trafod y flaenraglen waith ar gyfer haf 2024 (2) Blaenraglen waith
ddrafft Cylch gorchwyl
drafft ar gyfer ymchwiliad i'r diwydiant gemau fideo Dogfennau ategol:
Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith ddrafft a
chytunodd arni. |
|
(12.00 - 12.10) |
Hawliau darlledu rygbi’r Chwe Gwlad: Trafod yr adroddiad drafft (2) Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad drafft. |