Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lleu Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 28/09/2022 - Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan y Cadeirydd, Delyth Jewell AS. Cytunodd y Pwyllgor i ethol Heledd Fychan AS yn Gadeirydd dros dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

 

1.2 Croesawodd y Cadeirydd dros dro yr Aelodau i gyfarfod Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol. Estynnodd y Cadeirydd dros dro groeso arbennig i Sioned Williams AS wrth i'r Pwyllgor barhau â’i ymchwiliad ar y cyd â'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg. Cafwyd ymddiheuriadau gan Buffy Williams AS.

(09.30-10.30)

2.

Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg: Sesiwn dystiolaeth gydag undebau athrawon

Eithne Hughes, Cyfarwyddwr, Cymdeithas Arweinwyr Ysgolion a Cholegau (ASCL)

Ioan Rhys Jones, Ysgrifennydd Cyffredinol, Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC)

Siôn Amlyn, Swyddog Polisi a Gwaith Achos, NASUWT

 

Briff ymchwil

Tystiolaeth ysgrifenedig gan Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC)

Tystiolaeth ysgrifenedig gan NASUWT

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Cymdeithas yr Arweinwyr Ysgolion a Cholegau; Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC); a NASUWT

(10.40-11.40)

3.

Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg: Sesiwn dystiolaeth gydag eiriolwyr addysg cyfrwng Cymraeg

Heini Gruffydd, Cadeirydd, Dyfodol i'r Iaith

Toni Schiavone, Cadeirydd Grŵp Addysg, Cymdeithas yr Iaith

Dyfan Sion, Cyfarwyddwr Strategol, Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg

Elin Maher, Cyfarwyddwr Cenedlaethol Dros Dro, Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG)

 

Tystiolaeth ysgrifenedig gan Ddyfodol i'r Iaith

Tystiolaeth ysgrifenedig gan Gymdeithas yr Iaith

Tystiolaeth gan Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg

Tystiolaeth ysgrifenedig gan Rhieni dros Addysg Gymraeg (RhAG)

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Dyfodol i’r Iaith; Cymdeithas yr Iaith; swyddfa Comisiynydd y Gymraeg; a Rhieni Dros Addysg Gymraeg (RHAG).

 

3.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 17.24A, gwnaeth Heledd Fychan AS a Sioned Williams AS ddatganiadau o fuddiant perthnasol.

(11.40)

4.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

4.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

4.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Materion Ewropeaidd ynghylch ei alwad am dystiolaeth ar gyfer ei ymchwiliad i’r berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol.

 

4.3 Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip ynghylch datblygu strategaeth ddiwylliannol i Gymru, gan ofyn yn benodol pa rôl, os o gwbl, a fydd gan y Pwyllgor yn y gwaith o ddatblygu’r strategaeth.

4.1

Llythyr gan y Gweinidog Newid Hinsawdd at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch ystyriaeth y Pwyllgor o’r Bil Diogelwch Ar-lein: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol

Dogfennau ategol:

4.2

Llythyr gan Ddirprwy Gomisiynydd y Gymraeg at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch cofrestru nodau masnach ar gyfer geiriau Cymraeg

Dogfennau ategol:

4.3

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Ewropeaidd at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch ymchwiliad Pwyllgor Materion Ewropeaidd Tŷ’r Arglwyddi i’r berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol

Dogfennau ategol:

4.4

Gohebiaeth gan gyhoeddwr The National a Corgi Cymru at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch dyfodol y diwydiant newyddion yng Nghymru

Dogfennau ategol:

4.5

Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol at Newsquest Media Group ynghylch cau The National Wales

Dogfennau ategol:

4.6

Llythyr gan Olygydd Rhanbarthol (Cymru) Newsquest at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch cau The National Wales

Dogfennau ategol:

4.7

Gohebiaeth gan Reolwr Gyfarwyddwr y Glamorgan Star at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch cau The National Wales

Dogfennau ategol:

4.8

Llythyr gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch strategaeth ddiwylliannol i Gymru

Dogfennau ategol:

4.9

Llythyr gan Weinidog yr Economi at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch paratoadau ar gyfer Cwpan y Byd

Dogfennau ategol:

4.10

Gohebiaeth gan Mike Pemberton at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch newyddion BBC Cymru Wales

Dogfennau ategol:

(11.40)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig.

(11.40-12.00)

6.

Ôl-drafodaeth breifat

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

(12.00-12.10)

7.

Yr heriau sy’n wynebu gweithlu’r diwydiant creadigol: Amlinelliad o'r ymchwiliad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr amlinelliad ar gyfer yr ymchwiliad, a chytunodd arno