Agenda a Chofnodion
- Manylion Presenoldeb
- Agenda
PDF 213 KB Gweld Agenda fel HTML
- Papurau ar gyfer y cyfarfod hwn mewn pecyn PDF
- Llythyr gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a’r Prif Chwip at Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch Amgueddfa Cymru
PDF 368 KB
- Cofnodion y gellir eu hargraffu
PDF 378 KB Gweld Cofnodion fel HTML
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lleu Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y
Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau
Rhyngwladol. 1.5 Cafwyd ymddiheuriadau gan Hefin David AS. |
|
(09.30-10.20) |
Ymchwiliad i gymryd rhan mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig: Sesiwn dystiolaeth gydag undebau chwaraeon (1) Noel
Mooney, Prif Swyddog Gweithredol, Cymdeithas Bêl-droed Cymru Aled Lewis, Pennaeth Datblygu Pêl-droed, Ymddiriedolaeth Cymdeithas
Bêl-droed Cymru Leshia
Hawkins, Prif Swyddog Gweithredol, Criced Cymru Mojeid Ilyas, Swyddog Datblygu Cymunedau Amrywiol, Criced
Cymru Geraint
John, Cyfarwyddwr Cymunedol, Undeb Rygbi Cymru Chris
Munro, Arweinydd Datblygu Clybiau Cenedlaethol, Undeb Rygbi Cymru Papur
briffio gan Ymchwil y Senedd Tystiolaeth
ysgrifenedig gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru Ymateb i'r
ymgynghoriad gan Criced Cymru Tystiolaeth
ysgrifenedig gan Undeb Rygbi Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr
Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Criced Cymru, ac Undeb Rygbi Cymru. 2.2 Cytunodd y tri sefydliad i ddarparu gwybodaeth
ychwanegol ynglŷn â chyllid. |
|
(10.30-11.10) |
Ymchwiliad i gymryd rhan mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig: Sesiwn dystiolaeth gydag undebau chwaraeon (2) Fergus
Feeney, Prif Swyddog Gweithredol, Nofio Cymru Hanna
Guise, Rheolwr Cenedlaethol Dysgu Nofio, Nofio Cymru Phil John,
Is-Gadeirydd, Pêl-fasged Cymru Azeb
Smalley, Cyfarwyddwr Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant, Pêl-fasged Cymru Ymateb i'r
ymgynghoriad gan Nofio Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Nofio
Cymru a Phêl-fasged Cymru. 3.2 Cytunodd Pêl-fasged Cymru i rannu ymchwil y mae
wedi'i chomisiynu i faterion trafnidiaeth a hygyrchedd. 3.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Nofio Cymru a
Phêl-fasged Cymru gydag unrhyw gwestiynau nas cyrhaeddwyd. |
|
(11.20-11.50) |
Ymchwiliad i gymryd rhan mewn chwaraeon mewn ardaloedd difreintiedig: Sesiwn dystiolaeth gyda Chymdeithas Chwaraeon Cymru Victoria Ward,
Prif Swyddog Gweithredol Matthew Williams,
Pennaeth Polisi ac Eiriolaeth Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr
Cymdeithas Chwaraeon Cymru. |
|
(11.50) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1 Cafodd y papurau eu nodi. |
|
(11.50) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 6.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(11.50-12.15) |
Ôl-drafodaeth breifat Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(12.15-12.25) |
Blaenraglen waith Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Nododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer haf a
hydref 2022. 8.2 Cytunodd y Pwyllgor ar y papur cwmpasu ar gyfer
ymchwiliad yn y dyfodol i gynnal digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol. 8.3 Nododd y Pwyllgor y trefniadau ar gyfer ei ymweliad â
gogledd Cymru ar 19 a 20 Mai 2022. |
|
(12.25-12.30) |
Cronfa Cynnwys Cynulleidfaoedd Ifanc Trafod yr ohebiaeth ddrafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: 9.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth at Adran dros
Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn Llywodraeth y DU, a chytunwyd i drafod
y drafft ymhellach a chytuno arno y tu allan i'r cyfarfod hwn. |