Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Gwrthrychau Diwylliannol (Gwarchodaeth rhag Ymafael)
Cyflwynwyd y Bil Gwrthrychau Diwylliannol
(Gwarchodaeth rhag Ymafael) (y Bil) yn Nhŷ'r Cyffredin ar 16 Mehefin 2021.
Mae teitl hir y
Bil yn nodi mai ei ddiben “estyn y gwarchodaeth rhag atafaelu a fforffedu a
roddir i wrthrychau diwylliannol.”
Mae'r Bil yn
ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol
Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am
gydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar
fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.
Dywedodd
Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip, wrth y Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad fod gwelliannau i'r Bil a gyflwynwyd
yn ystod Cyfnod Adroddiad Tŷ'r
Cyffredin, ac a dderbyniwyd gan Dŷ'r
Cyffredin, yn dileu darpariaethau yn y Mesur a oedd o dan gymhwysedd
deddfwriaethol y Senedd. Ni wnaeth y Senedd felly ystyried cynnig cydsyniad
deddfwriaethol ar gyfer y Bil.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol – Rhagfyr 2021
Gosododd
Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 109KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 10
Rhagfyr 2021
Mae'r Pwyllgor Busnes wedi
cyfeirio'r Memorandwm at Pwyllgor
Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol a’r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad
arno erbyn 10
Mawrth 2022 (PDF 41KB).
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau
Rhyngwladol ei adroddiad
(PDF 129KB) ar 3 Mawrth 2022.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF
147KB) ar 3 Mawrth 2022. Ymatebodd
Llywodraeth Cymru i'r adroddiad ar 17 Mawrth 2022.
Gellir gweld
rhagor o wybodaeth am ystyriaeth y Senedd o’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol,
gan gynnwys gohebiaeth berthnasol, o dan ‘Cyfarfodydd Cysylltiedig’.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 13/12/2021
Dogfennau
- Ymateb gan y Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip ynglŷn â'r Bil Gwrthrychau Diwylliannol (Gwarchodaeth rhag Ymafael) - Ebrill 2022
PDF 261 KB
- Llythyr gan y Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip i'r Llywydd ynglŷn â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ynglŷn â'r Bil Gwrthrychau Diwylliannol (Gwarchodaeth rhag Ymafael) - Mawrth 2022
PDF 264 KB
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynglŷn â'r Bil Gwrthrychau Diwylliannol (Gwarchodaeth rhag Ymafael) - Mawrth 2022
PDF 93 KB