Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Marc Wyn Jones 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 17/03/2022 - Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30-12.00)

1.

Sesiwn anffurfiol: Digwyddiad ymgysylltu â rhanddeiliaid – Gwasanaethau Bysiau a Threnau yng Nghymru (preifat)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd y rhanddeiliaid a’r Aelodau i'r digwyddiad.

1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Jenny Rathbone AS, a dirprwyodd Carolyn Thomas AS ar ei rhan.

 

 

(13.00)

2.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.

2.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Delyth Jewell AS, a dirprwyodd Rhun ap Iorwerth AS ar ei rhan.

2.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai ef yn gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Huw Irranca-Davies AS yn Gadeirydd Dros Dro, yn unol â Rheol Sefydlog 17.22.

 

 

(13.00-13.55)

3.

Craffu ar waith Trafnidiaeth Cymru – sesiwn 1

James Price, Prif Weithredwr - Trafnidiaeth Cymru

Geoff Ogden, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cynllunio, Datblygu a Chynghori – Trafnidiaeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Trafnidiaeth Cymru.

 

(14.05-15.00)

4.

Craffu ar waith Trafnidiaeth Cymru – sesiwn 2

James Price, Prif Weithredwr - Trafnidiaeth Cymru

Geoff Ogden, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cynllunio, Datblygu a Chynghori – Trafnidiaeth Cymru

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor rhagor o dystiolaeth gan gynrychiolwyr Trafnidiaeth Cymru.

 

(15.00)

5.

Papurau i’w nodi

Cofnodion:

5.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

5.1

Cyllideb Llywodraeth Cymru 2022-2023

Dogfennau ategol:

5.2

Grŵp Rhyngweinidogol ar Sero Net, Ynni a Newid Hinsawdd

Dogfennau ategol:

5.3

Fframweithiau Cyffredin

Dogfennau ategol:

5.4

Fframweithiau Cyffredin

Dogfennau ategol:

5.5

Rheoliadau Gwaharddiadau Ifori (Sancsiynau Sifil) 2022 a Rheoliadau Deddf Ifori 2018 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) 2022

Dogfennau ategol:

5.6

Cyfoeth Naturiol Cymru – cwlfertau a ffosydd

Dogfennau ategol:

5.7

Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Senedd Cymru ac Ofcom

Dogfennau ategol:

5.8

Defnydd Comisiwn y Senedd o’r term BAME (Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig)

Dogfennau ategol:

(15.00)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

7.

Trafod y dystiolaeth a gafwyd

Cofnodion:

7.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiynau tystiolaeth.

 

8.

Trafod Blaenraglen Waith y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith a chytunodd arni.