Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhys Morgan
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 20/09/2021 - Y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y
Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol. 1.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 34.19, dywedodd y Cadeirydd
ei bod wedi penderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod y Pwyllgor er mwyn
amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond bod y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw ar www.senedd.tv. 1.3 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe
bai hi'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Vikki Howells AS yn
Gadeirydd Dros Dro yn unol â Rheol Sefydlog 17.22. 1.4 Cafwyd ymddiheuriadau gan Sarah Murphy AS ac roedd
Ken Skates AS, Jack Sargeant AS a Vikki Howells AS yn bresennol fel dirprwyon.
Nid oedd buddiannau i’w datgan. |
|
(13.30 - 15.00) |
Sesiwn graffu gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Janes Hutt AS, Y
Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Claire Bennett –
Cyfarwyddwr, Cymunedau a Threchu Tlodi Jo Salway –
Cyfarwyddwr, y Bartneriaeth Gymdeithasol a Gwaith Teg Dogfennau ategol:
Cofnodion: 2.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth gan y Gweinidog
Cyfiawnder Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol. 2.2 Yn ystod y sesiwn, cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu
at y Pwyllgor ynghylch y pwyntiau a ganlyn: ·
Ailsefydlu ffoaduriaid o
Affganistan yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar y nifer y mae angen eu cartrefu, y
math o lety sydd wedi’i sicrhau a’r gwasanaethau cymorth a gaiff eu darparu. ·
Hynt y cynlluniau i sefydlu
canolfan breswyl arfaethedig i ferched yng Nghymru. ·
Canlyniadau neu hynt y trafodaethau
ar gyllidebu ar sail rhyw. |
|
(15.15 - 16.00) |
Dyled a'r pandemig - Sefydliadau cynghori Gwennan Hardy, Uwch-swyddog
Polisi, Cyngor ar Bopeth Peter Tutton, Pennaeth
Polisi, Ymchwil a Materion Cyhoeddus, StepChange Jason Roberts, Cynghorwr
Dyled, Canolfan Gyfraith Speakeasy Dogfennau ategol:
Cofnodion: 3.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth yn ymwneud â dyled a’r
pandemig. |
|
(16.00 - 16.15) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol:
|
|
Adroddiad Gwaddol Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau y Bumed Senedd, Mawrth 2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1a Nododd yr Aelodau yr adroddiad. |
||
Gohebiaeth gan Archwilydd Cyffredinol Cymru at y Cadeirydd ynghylch gwaith Archwilio Cymru - 9 Gorffennaf 2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.2a Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth. |
||
Gohebiaeth gan y Llywydd at y Cadeirydd ynghylch amserlen y pwyllgorau - 14 Gorffennaf 2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.3a Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth. |
||
Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid at Gadeiryddion pob Pwyllgor ynglŷn â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru - 16 Gorffennaf 2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.4a Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth. |
||
Adroddiad Gweithdy Cwsmeriaid Bregus Dŵr Cymru - 25 Mawrth 2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.5a Nododd yr Aelodau yr adroddiad. |
||
Gohebiaeth gan Gwenith Price, Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg at y Cadeirydd ynghylch ystyried y Gymraeg yng ngwaith y Pwyllgor - 19 Gorffennaf 2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.6a Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth. |
||
Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg at Gadeiryddion Pwyllgorau ynghylch blaenoriaethau ar gyfer y Chweched Senedd - 20 Gorffennaf 2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.7a Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth. |
||
Gohebiaeth gan Gyfarwyddwr RNIB Cymru at Aelodau'r Pwyllgor ynghylch ymchwil ddiweddaraf RNIB i brofiadau pleidleisio pobl ddall a rhannol ddall - 23 Gorffennaf 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.8a Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth. |
||
Gohebiaeth gan Victoria Winkler, Cyfarwyddwr, Sefydliad Bevan at y Cadeirydd ynghylch tlodi plant a diogelu hawliau mudwyr - 23 Gorffennaf 2021 Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.9a Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth. |
||
Gohebiaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau at Gadeirydd y Pwyllgor Gwaith a Phensiynau ynghylch codi credyd cynhwysol - 5 Awst 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.10a Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth. |
||
Gohebiaeth gan Altaf Hussain AS at y Cadeirydd ynghylch yr heriau y mae pobl sy'n colli eu golwg yn eu hwynebu bob dydd yng Nghymru - 11 Awst 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.11a Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth. |
||
Gohebiaeth gan Pippa Cotterill, Pennaeth Swyddfa Cymru, Coleg Brenhinol Therapyddion Lleferydd ac Iaith Cymru at y Cadeirydd ynghylch anghenion pobl ifanc yn yr ystâd cyfiawnder ieuenctid o ran lleferydd, iaith a chyfathrebu - 1 Medi 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.12a Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth. |
||
Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol ynghylch yr argyfwng dyngarol yn Affganistan - 10 Medi 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: 4.13a Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth. |
||
(16.15) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig. |
|
(16.15 - 16.30) |
Ystyried y dystiolaeth - sesiwn graffu gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Cofnodion: 6.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gyflwynwyd o dan
eitem 2 a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog. |
|
(16.30 - 16.45) |
Trafod y dystiolaeth - sefydliadau sy'n rhoi cyngor ynghylch dyledion Cofnodion: 7.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd o dan
eitem 3. |
|
(16.45 - 17.00) |
Ystyried papur cwmpasu ar ofal plant a chyflogaeth rhieni Dogfennau ategol:
Cofnodion: 8.1 Trafododd yr Aelodau y papur cwmpasu ar ofal plant a chyflogaeth rhieni
ac, yn amodol ar fân newidiadau, byddant yn cytuno ar y papur yn electronig. |