Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Manon George
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 27/10/2022 - Y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(10.45) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1. Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a
Thai. |
|
(10.45 - 12.00) |
Cartrefi i ffoaduriaid o Wcráin – sesiwn dystiolaeth gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Jane Hutt AS, Y
Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Ruth Meadows, Cyfarwyddwr
Dros Dro Ymateb Wcráin, Llywodraeth Cymru Emma Williams, Cyfarwyddwr
Tai ac Adfywio, Llywodraeth Cymru Joanna Valentine,
Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Llety Wcráin, Llywodraeth Cymru Jo Trott, Dirprwy
Gyfarwyddwr Is-adran Llety Wcráin, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 2.1. Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan: Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Ruth Meadows, Cyfarwyddwr Dros Dro Ymateb Wcráin,
Llywodraeth Cymru Emma Williams, Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Llywodraeth
Cymru Joanna Valentine, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Llety
Wcráin, Llywodraeth Cymru Jo Trott, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Llety Wcráin,
Llywodraeth Cymru 2.2. Cytunodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i
ddarparu: ·
Ffigurau ar nifer y
ffoaduriaid o Wcráin sydd wedi symud o’u llety gwreiddiol, pan fydd gwybodaeth
o’r platfform data ar gael ·
Y wybodaeth ddiweddaraf
ynghylch datblygu a defnyddio llety modiwlar, gan gynnwys y gost fesul uned, a
sut y caiff llety o’r fath ei ddefnyddio mewn rhaglenni i fodloni anghenion tai ·
Nodyn ar y gostyngiad mewn
taliadau disgresiwn at gostau tai ·
Copi o’r llythyr gan
Weinidogion Cymru at Lywodraeth y DU ynghylch lwfansau tai lleol |
|
(12.00) |
Papurau i’w nodi Dogfennau ategol: |
|
Llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad mewn perthynas â moderneiddio gweinyddu etholiadaol Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1.a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler
Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad mewn perthynas â moderneiddio gweinyddu
etholiadol. |
||
Gohebiaeth gan y Welsh Cladiators mewn perthynas â diogelwch adeiladau Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.2.a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Welsh
Cladiators mewn perthynas â diogelwch adeiladau ac yn dilyn trafodaeth bellach
yn breifat, cytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Newid Hinsawdd ar y materion a
godwyd. |
||
Llythyr gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd at y Llywydd mewn perthynas â Bil Prisiau Ynni’r DU Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.3a Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog Materion
Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd at y Llywydd mewn perthynas â Bil Prisiau
Ynni’r DU. |
||
(12.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 4.1. Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig. |
|
(12.00 - 12.15) |
Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio Dogfennau ategol:
Cofnodion: 5.1. Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio a chytunodd i ysgrifennu at y
Gweinidog Newid Hinsawdd ar y materion a godwyd. |
|
(12.15 - 12.30) |
Trafod y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1. Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) a chytunodd i ysgrifennu
at y Gweinidog Newid Hinsawdd ar y materion a godwyd. |
|
(13.15 - 14.15) |
Briff technegol gan swyddogion Llywodraeth Cymru mewn perthynas â fformiwla gyllido llywodraeth leol Judith Cole,
Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Cyllid Llywodraeth Leol a Chynaliadwyedd Llywodraeth
Cymru Emma Smith,
Pennaeth Polisi Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru Tim Evans, Pennaeth
Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru James Koe,
Uwch-swyddog Ystadegol, Rheolwr Ariannu yn y Dyfodol a’r Setliad, Llywodraeth
Cymru Leah Whitty,
Swyddog Polisi Cyllid, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru Cofnodion: 7.1. Cafodd y Pwyllgor frîff technegol gan: Judith Cole, Dirprwy Gyfarwyddwr Polisi Cyllid
Llywodraeth Leol a Chynaliadwyedd Llywodraeth Cymru Emma Smith, Pennaeth Polisi Cyllid Llywodraeth Leol,
Llywodraeth Cymru Tim Evans, Pennaeth Cyllid Llywodraeth Leol, Llywodraeth
Cymru Leah Whitty, Swyddog Polisi Cyllid (Cyllid a Buddiannau),
Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru |
|
(14.15 - 14.30) |
Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law Cofnodion: 8.1. Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law a
chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a ddrafftio
adroddiad byr ar waith y Pwyllgor ar gartrefi i ffoaduriaid o Wcráin. |