Darparu cartrefi i ffoaduriaid o Wcráin

Darparu cartrefi i ffoaduriaid o Wcráin

Mae’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai wedi ymgymryd â gwaith mewn perthynas â darparu cartrefi i ffoaduriaid o Wcráin.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad ar 16 Mawrth 2023. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i adroddiad y Pwyllgor

 

Materion allweddol:

  • Parodrwydd awdurdodau lleol Cymru i groesawu pobl o Wcráin o dan y Cynllun Teuluoedd o Wcráin a’r Cynllun Cartrefi i Wcráin.
  • Rôl awdurdodau lleol a'r trydydd sector wrth gefnogi’r broses o weithredu’r cynlluniau ailsefydlu ar gyfer pobl o Wcráin.
  • Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu dod o hyd i lety a chefnogi ffoaduriaid yn y tymor hwy (ar ôl iddynt adael y canolfannau croeso/derbyn).
  • Trafodaethau Llywodraeth Cymru â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac awdurdodau lleol Cymru ynghylch gweithredu’r cynlluniau ailsefydlu ar gyfer pobl o Wcráin.
  • Y costau sydd ynghlwm wrth ddarparu cymorth a gwasanaethau i bobl o Wcráin sy'n cyrraedd Cymru, a sut y bydd y costau hynny’n cael eu talu.
  • Lefel y cyllid a ddarperir gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gefnogi awdurdodau lleol i gefnogi pobl o Wcráin.
  • Materion a phwysau sy'n deillio o gynlluniau eraill ar gyfer ailsefydlu ffoaduriaid, a’r posibilrwydd o rannu gwersi/arferion gorau.

Math o fusnes: Busnes Cynnar

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Cyfnod 1

Cyhoeddwyd gyntaf: 14/06/2022

Dogfennau

Papurau cefndir