Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lara Date 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 26/10/2023 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1     Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

1.2     Cafwyd ymddiheuriadau gan Buffy Williams AS. Ni chafwyd dim datganiadau o fuddiant.

 

(09.30)

2.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

2.1     Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

2.1

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio

Dogfennau ategol:

2.2

Cytundebau masnach: Partneriaeth Gynhwysfawr a Blaengar y Môr Tawel (CPTPP)

Dogfennau ategol:

2.3

Deddf Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) 2023

Dogfennau ategol:

2.4

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) ar y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio

Dogfennau ategol:

2.5

Cynllun Dychwelyd Ernes (DRS): Cynnwys gwydr

Dogfennau ategol:

2.6

Datblygiadau gwynt ar y môr yn y Môr Celtaidd

Dogfennau ategol:

2.7

Cynulliad Partneriaeth Seneddol y DU a'r UE

Dogfennau ategol:

2.8

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Rhestrau Sefydliadau) (Dirymu) 2023

Dogfennau ategol:

2.9

Gohebiaeth gyda Gweinidogion: Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25

Dogfennau ategol:

(09.30-10.15)

3.

Ynni niwclear ac economi Cymru: Diwydiant Niwclear ac Undebau

Tom Greatrex, Prif Weithredwr, Cymdeithas y Diwydiant Niwclear

Helen Higgs, Pennaeth Capasiti Adeiladu Niwclear Newydd, Grŵp Strategaeth Sgiliau Niwclear

Jane Lancastle, Ysgrifennydd Cynorthwyol, Prospect

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y panel ar ynni niwclear ac economi Cymru.

 

(10.20-11.05)

4.

Ynni niwclear ac economi Cymru: Cwmnïau Datblygu Niwclear

Alan Raymant, Prif Weithredwr, Cwmni Egino

Simon Bowen, Cadeirydd, GB Nuclear

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y panel ar ynni niwclear ac economi Cymru.

4.2     Cytunodd y panel i ddarparu ymateb pellach i'r Pwyllgor ynghylch effaith yr ardoll brentisiaethau ar y gallu i feithrin sgiliau.

 

(11.15-12.00)

5.

Ynni niwclear ac economi Cymru: Safbwynt Awdurdod Lleol

Llinos Medi, Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn

Alwen Williams, Cyfarwyddwr Portffolio, Uchelgais Gogledd Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y panel ar ynni niwclear ac economi Cymru.

 

(12.15-13.00)

6.

Ynni niwclear ac economi Cymru: Academyddion

Yr Athro Adrian Bull, Cadeirydd BNFL mewn Ynni Niwclear a’r Gymdeithas, Prifysgol Manceinion

Yr Athro Simon Middleburgh, Sefydliad Dyfodol Niwclear, Prifysgol Bangor

 

Cofnodion:

6.1     Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y panel ar ynni niwclear ac economi Cymru.

 

(13.00)

7.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

7.1     Derbyniwyd y Cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

(13.00-13.15)

8.

Trafod tystiolaeth yn dilyn y cyfarfod

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.