Cynnydd tuag at gyflawni ymrwymiadau newid hinsawdd
Cynnydd tuag at gyflawni ymrwymiadau newid hinsawdd
Mae’r newid yn yr
hinsawdd yn flaenoriaeth strategol drosfwaol i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a
Seilwaith (“y Pwyllgor”). Mae'r gwaith hwn yn cwmpasu:
>>>>
>>> Lliniaru newid hinsawdd: cynnwys
cyllidebau a thargedau carbon, a chynnydd tuag at gyflawni Cymru Sero Net
Cyllideb Garbon 2 Llywodraeth Cymru (2021-25), ac
>>> Addasu i’r newid yn yr hinsawdd
<<<
Mae mwy o
wybodaeth ar ystyriaeth y Pwyllgor i liniaru newid yn yr hinsawdd ac addasu i’r
newid yn yr hinsawdd ar gael drwy ddilyn y dolenni uchod, a hefyd o dan y
tabiau 'Materion Cysylltiedig' neu 'Cyfarfodydd Cysylltiedig'.
Gohebiaeth
Ar 11 Ionawr
2023, cyn y sesiwn graffu gyda’r Gweinidog Newid Hinsawdd a gynlluniwyd ar
gyfer tymor y Gwanwyn, ysgrifennodd
y Cadeirydd at y Gweinidog Newid Hinsawdd (PDF 160KB) mewn perthynas â’r
cynnydd tuag at gyflawni ymrwymiadau newid hinsawdd.
Ar 18 Tachwedd
2022, ysgrifennodd
y Cadeirydd at y Gweinidog Newid Hinsawdd (PDF 153KB) mewn perthynas ag
addasu i effeithiau newid hinsawdd a chyllidebau carbon, ac ymatebodd
y Gweinidog i lythyr y Cadeirydd (PDF 156KB) ar 9 Rhagfyr 2022.
Strategaeth
Ddrafft ar gyfer Ymgysylltu â'r Cyhoedd a Gweithredu gan y Cyhoedd ar Newid
Hinsawdd (2022-2026): ysgrifennodd
y Gweinidog Newid Hinsawdd at y Cadeirydd (PDF 132KB) ar 20 Hydref mewn
perthynas â chyhoeddi'r strategaeth ddrafft. Mae mwy o wybodaeth am y
strategaeth ddrafft ar gael ar wefan
Llywodraeth Cymru.
Math o fusnes: Arall
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/02/2023