Addasu hinsawdd
Addasu hinsawdd
Yn ystod tymor y
Senedd hon cytunodd y Pwyllgor Newid
Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith ("y Pwyllgor") i wneud
gwaith i asesu'r cynnydd tuag at gyflawni cynllun addasu hinsawdd Llywodraeth
Cymru.
Nod addasu
hinsawdd yw lleihau’r risgiau y mae newid hinsawdd yn eu gosod, ac elwa o
unrhyw gyfleoedd cysylltiedig lle bo hynny’n bosibl. Ym mis Rhagfyr 2019,
cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei chynllun pum mlynedd i addasu i newid hinsawdd,
sef Ffyniant
i Bawb Cymru sy'n Effro i'r Hinsawdd. Dilynwyd hyn gan Adroddiad
Cynnydd ym mis Rhagfyr 2022.
Mae mwy o
wybodaeth gefndirol am waith graffu’r Pwyllgor ar gynnydd tuag at gyflawni
ymrwymiadau newid hinsawdd ar gael ar ei dudalen we.
Math o fusnes: Arall
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/02/2023