Lliniaru newid yn yr hinsawdd
Lliniaru newid yn yr hinsawdd
Yn ystod tymor y
Senedd hon bydd y Pwyllgor Newid
Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith ("y Pwyllgor") yn craffu'n barhaus
ar gynnydd Llywodraeth Cymru tuag at leihau allyriadau carbon.
Gwybodaeth
gefndirol
Ffyniant
i Bawb: Cymru carbon isel, a gyhoeddwyd yn 2019, oedd cynllun cyflawni
carbon isel cyntaf Llywodraeth Cymru a oedd yn nodi sut yr oedd Cymru yn anelu
at gyflawni ei chyllideb garbon gyntaf (2016-2020). Ym mis Rhagfyr 2022,
cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei datganiad
terfynol ar gyfer y gyllideb garbon gyntaf (2016-20) a tharged allyriadau
interim 2020.
Cymru
Sero Net Cyllideb Garbon 2 (2021-2025), a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2021, yw
ail gynllun Llywodraeth Cymru sy’n canolbwyntio ar ei hail gyllideb garbon
(2021–2025). Ym mis Tachwedd 2021, cynhaliodd y Pwyllgor waith cychwynnol ar
Gymru Sero Net. Mae rhagor o wybodaeth am hyn, gan gynnwys barn rhanddeiliaid
ar gael ar dudalen we’r Pwyllgor, Cymru
Sero Net - ystyriaeth cychwynnol.
Mae mwy o
wybodaeth gefndirol am waith graffu’r Pwyllgor ar gynnydd tuag at gyflawni
ymrwymiadau newid hinsawdd ar gael ar y dudalen we, Cynnydd tuag at gyflawni ymrwymiadau
newid hinsawdd.
Casglu
tystiolaeth
Ar 9 Chwefror 2023,
cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth gyda Phwyllgor Newid Hinsawdd y DU
(CCC) ar y datganiad terfynol ar gyfer y gyllideb garbon gyntaf a tharged 2020,
ac ar y cynnydd tuag at gyflawni Cymru Sero Net.
Cynhaliodd y
Pwyllgor sesiwn graffu gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ddydd Mercher 1
Mawrth. Cyn y cyfarfod, cyflwynodd y Gweinidog bapur, Craffu
ar gynnydd tuag at gyflawni ymrwymiadau newid hinsawdd (PDF 337KB). Mae'r
papur yn rhoi gwybodaeth ar Ddatganiad Terfynol y Gyllideb Garbon Gyntaf a
Tharged Interim 2020, ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd tuag at
gyflawni Cymru Sero Net Cyllideb Garbon 2 (2021-25).
Math o fusnes: Arall
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/02/2023