Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Robert Donovan
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/06/2023 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. 1.2 Datganodd Samuel Kurtz AS ei fod yn aelod anrhydeddus
o Gymdeithas Milfeddygon Prydain. 1.3 Datganodd Vaughan Gething AS ei fod yn aelod
anrhydeddus o Gymdeithas Milfeddygon Prydain. |
|
(09.30) |
Papurau i'w nodi Cofnodion: 2.1 Nododd y Pwyllgor y papurau. |
|
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Ardrethu Annomestig Dogfennau ategol: |
||
Bridwyr Hadau Indrawn Porthiant Dogfennau ategol: |
||
Gorchymyn Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (Diwygio) 2023 Dogfennau ategol: |
||
Cyfarfod o’r Fforwm Gweinidogol ar gyfer Masnach - 23 Mai 2023 Dogfennau ategol: |
||
Y Gronfa Ffyniant Gyffredin a Chronfa Ffyniant Bro y DU Dogfennau ategol: |
||
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol (Rhif 2) Dogfennau ategol: |
||
Ymchwiliad y Pwyllgor i gyllid datblygu rhanbarthol wedi'r UE Dogfennau ategol: |
||
(09.30-10.40) |
Craffu Cyffredinol ar Waith y Gweinidog: Gweinidog yr Economi Vaughan Gething
AS, Gweinidog yr Economi Andrew Gwatkin,
Cyfarwyddwr Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach, Llywodraeth Cymru Duncan Hamer, Cyfarwyddwr
Gweithrediadau, Busnes a Rhanbarthau, Llywodraeth Cymru Peter Ryland, Cyfarwyddwr,
Buddsoddi Rhanbarthol a Ffiniau, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog yr
Economi. 3.2 Cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor i roi
gwybodaeth ychwanegol am ddangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer
gwasanaeth Busnes Cymru rhwng 2023 a 2029. 3.3 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig gan Weinidog yr
Economi i ddarparu i’r Aelodau y manylion a ddarparwyd gan y Gweinidog
Huddlestone i Lywodraeth Cymru ynghylch y strwythur adrannol newydd a
chyfrifoldeb gweinidogol dros DBT, a gofynnodd yr Aelodau hefyd am wybodaeth
ychwanegol ynghylch y Model Gweithredu Targed Ffiniau |
|
(10.50-12.00) |
Craffu Cyffredinol ar Waith y Gweinidog: Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Lesley Griffiths
AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd Gian Marco
Currado, Cyfarwyddwr – Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru Richard Irvine,
Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: 4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a
Gogledd Cymru, a’r Trefnydd. 4.2 Cytunodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd
Cymru, a'r Trefnydd i ysgrifennu at yr Aelodau i roi manylion am y gronfa ddata
taliadau i fuddiolwyr y Polisi Amaethyddol Cyffredin. 4.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog
ynghylch y dull rheoli TB prynu gwybodus. |
|
(12.00) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 5.1 Derbyniwyd y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y
cyfarfod. |
|
(12.00-12.05) |
Trafod tystiolaeth yn dilyn y cyfarfod Cofnodion: 6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law. |
|
(12.05-12.20) |
Ariannu ar ôl gadael yr UE: trafod y prif faterion Papur i ddilyn Cofnodion: 7.1 Trafododd y Pwyllgor y papur materion o bwys ynghylch
cyllid datblygu rhanbarthol ar ôl gadael yr UE. |