Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Robert Donovan
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 12/03/2025 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
| Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
|---|---|---|
09.30 - 10.00 |
Deallusrwydd Artiffisial ac Economi Cymru: Trafod y materion o bwys - Deepseek Cofnodion: 1.1
Trafododd y Pwyllgor y papur ar y materion
allweddol a chytunodd arno. 1.2
Nododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf am
Ddeallusrwydd Artiffisial o ran Deepseek. 1.3
Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ysgrifennu at y Pwyllgor
Iechyd a Gofal Cymdeithasol, i dynnu sylw at feysydd o’r gwaith sy’n croesi i
gylch gwaith eu pwyllgor, yn ogystal â gwaith dilynol gyda Llywodraeth Cymru
drwy ohebiaeth ysgrifenedig. |
|
10.00 - 10.25 |
Trafod y Flaenraglen Waith Cofnodion: 2.1 Bu’r Pwyllgor
yn trafod y Flaenraglen Waith ar gyfer hanner olaf tymor yr haf 2025 a thymor
yr hydref 2025, a chytunwyd ar y meysydd o ddiddordeb i’r Pwyllgor fwrw ymlaen
â hwy. |
|
10.25 - 10.40 |
Adolygiad o’r broses ar gyfer Biliau Cyhoeddus a Biliau Aelod: Ystyried yr ymgynghoriad Cofnodion: 3.1 Trafododd y
Pwyllgor y llythyr gan y Llywydd a thrafod eu barn ar y pwnc er mwyn cyfrannu
at ymateb. |
|
10.40 |
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: 4.1 Croesawodd y
Cadeirydd bawb i’r sesiwn gyhoeddus, gan nodi bod y cyhoedd wedi’u gwahardd o
eitemau 1, 2 a 3 o’r cyfarfod hwn, fel y cytunodd y Pwyllgor o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) yn ei gyfarfod blaenorol ar 6
Mawrth 2025. 4.2 O dan Reol
Sefydlog 17.24A, datganodd Andrew RT Davies AS a Samuel Kurtz AS fuddiant mewn
perthynas ag eitem 6. |
|
10.40 |
Papurau i'w nodi Cofnodion: 5.1 Nododd y
Pwyllgor y papurau. |
|
|
Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig - Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Rheoleiddio Cynnyrch a Mesureg Dogfennau ategol: |
||
|
Concordat rhwng yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a Llywodraeth Cymru Dogfennau ategol: |
||
|
Dilyniant i gyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd ar 15 Ionawr 2025 - Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26 Dogfennau ategol: |
||
|
Difrod a Chau Porthladd Caergybi yn Dilyn Storm Dogfennau ategol: |
||
|
Cyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig Dogfennau ategol: |
||
|
Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig - Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26 Dogfennau ategol: |
||
10.40 - 11.40 |
Hybu Cig Cymru - Panel 1 Dylan Morgan,
Pennaeth Polisi Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU), Cymru Gareth Parry,
Pennaeth Polisi Undeb Amaethwyr Cymru (FUW) Dogfennau ategol:
Cofnodion: 6.1 Clywodd y
Pwyllgor dystiolaeth gan Dylan Morgan (Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru
(NFU)), a Gareth Parry (Undeb Amaethwyr Cymru (FUW)). |
|
11.40 |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: 7.1 Derbyniodd y
Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. |
|
11.40 - 11.50 |
Trafod tystiolaeth yn dilyn y cyfarfod Cofnodion: 8.1 Trafododd y
Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd o dan eitem 6. |
|
11.50 - 12.00 |
Adroddiad Monitro Masnach Ryngwladol Cofnodion: 9.1 Nododd y
Pwyllgor yr adroddiad, a chytunodd i'w gyhoeddi fel diweddariad ciplun sy’n
gywir ar hyn o bryd. |
|
12.00 - 12.10 |
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Data (Defnydd a Mynediad) - ystyried yr adroddiad drafft Cofnodion: 10.1 Cytunodd y
Pwyllgor ar yr adroddiad drafft. |
PDF 211 KB