Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Robert Donovan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 14/11/2024 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(10.25)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1    Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

(10.25)

2.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

2.1    Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

2.1

Rheoliadau Fframwaith Windsor (Symud Anifeiliaid Anwes yn Anfasnachol) 2024

Dogfennau ategol:

2.2

Cydsyniad deddfwriaethol: Rheoleiddio Cynnyrch a Mesureg

Dogfennau ategol:

2.3

P-06-1403 Ailystyried Toriadau i Gyllid Ôl-raddedig a Chynyddu Benthyciadau Doethuriaeth i Gyfateb ag Ariantal Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI)

Dogfennau ategol:

2.4

Y Diwydiant Twristiaeth – Cais am y wybodaeth ddiweddaraf

Dogfennau ategol:

2.5

Gweithrediadau a Chyflawniadau Hybu Cig Cymru

Dogfennau ategol:

2.6

Ymgynghoriad ar ddiwygiadau i’r Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd

Dogfennau ategol:

2.7

Iechyd a lles anifeiliaid - Y defnydd o gawelli ar gyfer ffesantod a phetris gan y diwydiant saethu yng Nghymru

Dogfennau ategol:

2.8

Ymweliad cyd-bwyllgor y Senedd ag Iwerddon

Dogfennau ategol:

2.9

Craffu ar Gyllideb Ddrafft 2025-26

Dogfennau ategol:

2.10

Rheoliadau Symud Nwyddau (Gogledd Iwerddon i Brydain Fawr) (Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Iechyd Planhigion etc.) (Darpariaeth Ddarfodol a Diwygiadau Amrywiol) 2024

Dogfennau ategol:

2.11

Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Diwygio) 2024

Dogfennau ategol:

2.12

Terfynau amser adrodd ar gyfer memoranda cydsyniad deddfwriaethol

Dogfennau ategol:

2.13

P-06-1291 Cynnal ymchwiliad i’r pryniant corfforaethol o’r proffesiwn milfeddygol yng Nghymru

Dogfennau ategol:

2.14

Rheoliadau Pysgodfeydd Môr (Diwygio) (Rhif 2) 2024

Dogfennau ategol:

2.15

Ymgysylltiad Rhyngseneddol

Dogfennau ategol:

2.16

Grwp Rhyngweinidogol ar gyfer yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig

Dogfennau ategol:

(10.25-11.25)

3.

Yr Economi Sylfaenol: Panel 5

Sarah Simmonds, Cyfarwyddwr y Gweithlu a Datblygu Sefydliadol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan

Ali Abdi, Rheolwr Partneriaethau Porth Cymunedol, Ysgol Pensaernïaeth, Prifysgol Caerdydd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1    Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Sarah Simmonds (Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan) ac Ali Abdi (Prifysgol Caerdydd).

3.2    Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y ddau dyst gyda chwestiynau dilynol o'r sesiwn.

 

(11.45-12.45)

4.

Yr Economi Sylfaenol: Panel 6 - Sesiwn weinidogol

Rebecca Evans MS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Llywodraeth Cymru

Aine Gawthorpe, Dirprwy Gyfarwyddwr, yr Is-adran Trawsnewid Diwydiannol ac Economi Sylfaenol, Llywodraeth Cymru

Duncan Hamer, Cyfarwyddwr Gweithrediadau – Busnes a Rhanbarthau, Llywodraeth Cymru

Stephen Layne, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwaith Teg, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1    Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio.

4.2    Cytunodd yr Ysgrifennydd Cabinet i ysgrifennu at y Pwyllgor i roi rhagor o fanylion am ymholiadau caffael. 

 

 

(12.50-14.05)

5.

Gwaith Craffu Cyffredinol ar Waith y Gweinidogion - Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio a'r Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol

Rebecca Evans MS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Llywodraeth Cymru

Jack Sargeant AS, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol, Llywodraeth Cymru

Duncan Hamer, Cyfarwyddwr Gweithrediadau – Busnes a Rhanbarthau, Llywodraeth Cymru

Andrew Gwatkin, Cyfarwyddwr – Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach, Llywodraeth Cymru

Jo Salway, Cyfarwyddwr - Partneriaeth Gymdeithasol, Cyflogadwyedd a Gwaith Teg, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

5.1    Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, a Jack Sargeant AS, y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol.

5.2    Cytunodd y Gweinidog i roi rhagor o fanylion i’r Pwyllgor mewn perthynas â nifer o faterion a godwyd.

 

 

(14.05)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1    Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

(14.05-14.20)

7.

Trafod tystiolaeth yn dilyn y cyfarfod

Cofnodion:

7.1    Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law o dan Eitemau 3, 4 a 5.

 

(14.20-14.25)

8.

Cydsyniad deddfwriaethol: Rheoleiddio Cynnyrch a Mesureg - trafod yr adroddiad drafft

Cofnodion:

8.1    Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol, a chytunodd i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio i ofyn am ragor o wybodaeth.

 

(14.25-14.30)

9.

Ymweliad cyd-bwyllgor y Senedd ag Iwerddon

Cofnodion:

9.1    Cytunodd y Pwyllgor ar yr adroddiad.