Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Robert Donovan 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 21/06/2023 - Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

1.2 Datganodd Samuel Kurtz AS ei fod yn aelod anrhydeddus o Gymdeithas Milfeddygon Prydain.

1.3 Datganodd Vaughan Gething AS ei fod yn aelod anrhydeddus o Gymdeithas Milfeddygon Prydain.

 

(09.30)

2.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

2.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

2.1

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Ardrethu Annomestig

Dogfennau ategol:

2.2

Bridwyr Hadau Indrawn Porthiant

Dogfennau ategol:

2.3

Gorchymyn Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (Diwygio) 2023

Dogfennau ategol:

2.4

Cyfarfod o’r Fforwm Gweinidogol ar gyfer Masnach - 23 Mai 2023

Dogfennau ategol:

2.5

Y Gronfa Ffyniant Gyffredin a Chronfa Ffyniant Bro y DU

Dogfennau ategol:

2.6

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol (Rhif 2)

Dogfennau ategol:

2.7

Ymchwiliad y Pwyllgor i gyllid datblygu rhanbarthol wedi'r UE

Dogfennau ategol:

(09.30-10.40)

3.

Craffu Cyffredinol ar Waith y Gweinidog: Gweinidog yr Economi

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Andrew Gwatkin, Cyfarwyddwr Cysylltiadau Rhyngwladol a Masnach, Llywodraeth Cymru

Duncan Hamer, Cyfarwyddwr Gweithrediadau, Busnes a Rhanbarthau, Llywodraeth Cymru

Peter Ryland, Cyfarwyddwr, Buddsoddi Rhanbarthol a Ffiniau, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Weinidog yr Economi.

3.2 Cytunodd y Gweinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor i roi gwybodaeth ychwanegol am ddangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer gwasanaeth Busnes Cymru rhwng 2023 a 2029.

3.3 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig gan Weinidog yr Economi i ddarparu i’r Aelodau y manylion a ddarparwyd gan y Gweinidog Huddlestone i Lywodraeth Cymru ynghylch y strwythur adrannol newydd a chyfrifoldeb gweinidogol dros DBT, a gofynnodd yr Aelodau hefyd am wybodaeth ychwanegol ynghylch y Model Gweithredu Targed Ffiniau

 

(10.50-12.00)

4.

Craffu Cyffredinol ar Waith y Gweinidog: Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Gian Marco Currado, Cyfarwyddwr – Materion Gwledig, Llywodraeth Cymru

Richard Irvine, Prif Swyddog Milfeddygol, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd.

4.2 Cytunodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd i ysgrifennu at yr Aelodau i roi manylion am y gronfa ddata taliadau i fuddiolwyr y Polisi Amaethyddol Cyffredin.

4.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog ynghylch y dull rheoli TB prynu gwybodus.

 

(12.00)

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

5.1 Derbyniwyd y cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.

 

(12.00-12.05)

6.

Trafod tystiolaeth yn dilyn y cyfarfod

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(12.05-12.20)

7.

Ariannu ar ôl gadael yr UE: trafod y prif faterion

Papur i ddilyn

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y papur materion o bwys ynghylch cyllid datblygu rhanbarthol ar ôl gadael yr UE.