Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Sarah Beasley 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 29/01/2025 - Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1        Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

1.2        Cafwyd ymddiheuriadau gan Lesley Griffiths AS, ac roedd Jenny Rathbone AS yn bresennol yn ei lle.

 

(9.30-10.45)

2.

Atal iechyd gwael – gordewdra: sesiynau tystiolaeth - Panel 5

Seicolegwyr ledled Cymru ym maes rheoli pwysau

Dr Kellie Turner, Seicolegydd Clinigol, Connect – gwasanaeth rheoli pwysau plant a phobl ifanc

Dr Jen Daffin, Seicolegydd Clinigol Cymunedol, Cadeirydd Seicolegwyr dros Newid – De Cymru

Dr Claire Lane, Prif Seicolegydd Clinigol, Weight Management Team 

 

Briff Ymchwil

Papur 1 – Seicolegwyr ledled Cymru ym maes rheoli pwysau

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.2 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Seicolegwyr ledled Cymru ym maes Rheoli Pwysau.

 

(11.00-12.15)

3.

Atal iechyd gwael – gordewdra: sesiynau tystiolaeth – Panel 6

Chwaraeon Cymru

Graham Williams, Cyfarwyddwr Deallusrwydd Chwaraeon a Datblygu Gwasanaethau

Jessica Williams, Pennaeth Gwasanaeth a Datblygu Partneriaid

 

Chwaraeon Anabledd Cymru

Fiona Reid, Prif Swyddog Gweithredol

Tom Rogers, Cyfarwyddwr Llywodraethiant a Phartneriaethau

 

Papur 2 – Chwaraeon Cymru – ymateb i'r ymgynghoriad

Papur 3 – Chwaraeon Cymru – tystiolaeth ychwanegol

Papur 4 - Chwaraeon Anabledd Cymru - trosolwg o’r dystiolaeth

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.2 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Chwaraeon Cymru a Chwaraeon Anabledd Cymru.

 

(12.15)

4.

Papurau i’w nodi

4.1

Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau at Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch y ddeiseb: P-06-1435, rhoi sgrinio canser yr ysgyfaint wedi’i dargedu ar waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

4.2

Llythyr oddi wrth y Pwyllgor Deisebau at y Gweinidog Iechyd a Llesiant ynghylch Deiseb P-06-1479: Stopio cadw plant, pobl ifanc ac oedolion ag anableddau dysgu ac awtistiaeth mewn ysbytai.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.2.2 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

4.3

Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau ynghylch Deiseb P-06-1467: Cyfarwyddo GIG Cymru i ychwanegu Adenomyosis at y rhestr A i Y ar ei wefan 111.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.3.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

4.4

Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ynghylch lansio ymchwiliad: Rôl awdurdodau lleol o ran cefnogi’r broses o ryddhau cleifion o’r ysbyty

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.4.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

4.5

Llythyr oddi wrth y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant ynghylch Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Cynhyrchion Rheoleiddiedig) (Diwygio, Dirymu, Darpariaethau Canlyniadol a Throsiannol) 2025.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.5.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

4.6

Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Lleoli) (Cymru) 2025

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.6.1 Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

(12.15)

5.

Cynnig i ethol Cadeirydd dros dro ar gyfer y cyfarfod ar 6 Chwefror 2025 yn unol â Rheol Sefydlog 17.22

Cofnodion:

5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(12.15)

6.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(vi) a (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

6.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

(12.15-12.20)

7.

Atal iechyd gwael - gordewdra: trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(12.20-12.30)

8.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26: Ystyried yr adroddiad drafft

Papur 5 – Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26: Adroddiad drafft

 

Cofnodion:

8.1 Derbyniodd y Pwyllgor yr adroddiad yn amodol ar fân newidiadau.