Rôl awdurdodau lleol o ran cefnogi’r broses o ryddhau cleifion o'r ysbyty

Rôl awdurdodau lleol o ran cefnogi’r broses o ryddhau cleifion o'r ysbyty

Inquiry4

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ei adroddiad ar rôl awdurdodau lleol o ran cefnogi’r broses o ryddhau cleifion o'r ysbyty – 16 Medi 2025. (PDF 2.8 MB)

 

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb i’r adroddiad – 5 Tachwedd 2025 (PDF 271KB).

 

Cytunodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai i gynnal ymchwiliad i rôl awdurdodau lleol o ran cefnogi rhyddhau cleifion o ysbytai a mynd i’r afael ag oedi wrth drosglwyddo gofal.

 

Mae'r Pwyllgor yn deall bod oedi wrth ryddhau cleifion yn broblem gymhleth a bod partneriaid iechyd yn chwarae rôl hefyd. Fel Pwyllgor, rydym am adeiladu ar waith y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda’i ymchwiliad i Ryddhau cleifion o ysbytai ac effaith hynny ar y llif cleifion drwy ysbytai, gan ganolbwyntio ar rôl awdurdodau lleol.

 

Bydd y cylch gorchwyl yn ystyried:

>>>> 

>>>effeithiolrwydd awdurdodau lleol (gan ganolbwyntio’n bennaf ar wasanaethau cymdeithasol) o ran cefnogi’r broses o ryddhau cleifion o’r ysbyty mewn modd diogel, amserol ac effeithlon;

>>>graddfa’r sefyllfa bresennol o ran achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal o'r ysbyty (mewn modd y gellir ei briodoli i rôl awdurdodau lleol), gan gynnwys hyd cyffredinol yr achosion o oedi;

>>>y prif rwystrau y mae awdurdodau lleol yn eu hwynebu o ran hwyluso yn effeithiol y broses o ryddhau cleifion sydd ag anghenion gofal a chymorth, gan gynnwys:

>*>*>*

***capasiti gwasanaethau gofal cymdeithasol a phrinder staff yn y gweithlu,

***achosion o aros am asesiadau gofal (a materion eraill sy’n ymwneud ag asesu),

***heriau o ran trefnu lleoliadau mewn cartrefi gofal neu becynnau gofal cartref, ac

***achosion o anghytuno neu rwystrau deddfwriaethol sy'n effeithio ar benderfyniadau ynghylch rhyddhau cleifion;

<*<*<*

>>>yr amrywiadau sy’n bodoli ledled Cymru o ran arferion parthed rhyddhau cleifion o'r ysbyty, a'r effaith ar ddarpariaeth awdurdodau lleol. Sut i wella cysondeb, gan gynnwys drwy nodi arferion gorau a dulliau arloesol y gellid eu mabwysiadu'n ehangach

>>>asesiad o’r prosesau a’r gweithdrefnau rhyddhau sy’n bodoli ar lefel llywodraeth leol a chenedlaethol ar hyn o bryd, gan gynnwys trefniadau gweithio mewn partneriaeth rhwng y GIG ac awdurdodau lleol, strategaethau ar gyfer cynyddu capasiti cymunedol, ac effeithiolrwydd y cymorth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru.

<<< 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 14/01/2025

Papurau cefndir

Ymgynghoriadau