Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Fay Bowen 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 29/11/2023 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09:15)

1.

Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.

 

 

 

(09:15 - 09:30)

2.

Papurau i'w nodi

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

Llythyr gan Brif Weithredwr Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru a Phennaeth Is-adran Taliadau Gwledig Llywodraeth Cymru ynghylch gwneud y mwyaf o arian yr UE

Dogfennau ategol:

2.2

Llythyr gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Dogfennau ategol:

2.3

Llythyr gan Gyfarwyddwr Cyffredinol y Grŵp Newid Hinsawdd a Materion Gwledig ynghylch Maes Awyr Caerdydd

Dogfennau ategol:

(09:30 - 11:00)

3.

Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru: Amgueddfa Cymru

Swyddogion Llywodraeth Cymru

 

-       Andrew Slade: Cyfarwyddwr Cyffredinol - yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad

-       Jason Thomas: Cyfarwyddwr - Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth

 

Dogfennau atodol:

 

-       Trefniadau llywodraethu mewn perthynas ag anghydfod cyflogaeth yn Amgueddfa Cymru

 

-       Adroddiad Terfynol Panel yr Adolygiad Teilwredig

 

-       Llythyr gan Cyfarwyddwr Cyffredinol, Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad Llwyodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Andrew Slade, Cyfarwyddwr Cyffredinol - yr Economi, y Trysorlys a’r Cyfansoddiad, Llywodraeth Cymru a Jason Thomas, Cyfarwyddwr - Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Llywodraeth Cymru fel rhan o'i ymchwiliad i Amgueddfa Cymru.

 

(11:00)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(11:10 - 11:40)

5.

Trafod y dystiolaeth a gafwyd gan Lywodraeth Cymru: Amgueddfa Cymru

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(11:40 - 12:00)

6.

Trafod adroddiad drafft y Pwyllgor: Adfywio Canol Trefi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cytunodd yr Aelodau ar drafod yr eitem hon yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor ar 14 Rhagfyr 2023.

 

(12:00 - 12:30)

7.

Blaenraglen waith: Gwanwyn 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y flaenraglen waith ar gyfer tymor y gwanwyn 2024.