Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Mae’r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus wedi cytuno i ymgymryd â gwaith ar y cyd mewn perthynas â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (y Bwrdd Iechyd).

 

Y cefndir

 

Mae’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus eisoes wedi ymgymryd â gwaith ar faterion llywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ystod y Chweched Senedd, gan gynnwys cymryd tystiolaeth fanwl gan y Bwrdd Iechyd ym mis Mawrth 2022, gohebiaeth gyda’r Bwrdd Iechyd a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, a thystiolaeth gan Gyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru ym mis Tachwedd 2022. Roedd y Pwyllgor wedi bwriadu adolygu’r cynnydd sy'n cael ei wneud gan y Bwrdd Iechyd yn ystod hydref 2022 ac ailedrych arno, ond gohiriodd y gwaith hwn yn dilyn cymhwyso cyfrifon y Bwrdd Iechyd ac ymchwiliadau pellach dilynol.

 

Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Chwefror 2023 ei bod yn dychwelyd y Bwrdd Iechyd i fesurau arbennig.

 

Gwaith craffu’r pwyllgorau

 

Mae agweddau ar y materion sy'n effeithio ar y Bwrdd Iechyd yn dod o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus.

Wrth gynnal brîff gwylio gweithredol, mae'r Pwyllgorau wedi cytuno ar y canlynol

>>>> 

>>>    Cydweithio gyda’i gilydd lle bo hynny'n bosibl ac yn briodol.

>>>    I’w gwaith craffu fod yn gymesur, gyda ffocws iddo ac wedi'i amseru'n briodol i ychwanegu gwerth yn hytrach na dyblygu neu wrthdaro â phrosesau eraill sy’n mynd rhagddynt.

>>>    Sicrhau cydbwysedd rhwng craffu cyfreithlon a chydnabod pan mae pethau'n gweithio'n dda.

<<<< 

 

Gweithgarwch hyd yma

 

Bydd y Pwyllgorau'n parhau i adolygu eu dull o graffu a byddant yn diweddaru'r dudalen hon yn unol â hynny.

>>>> 

>>>    Ysgrifennodd y Pwyllgorau at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 19 Ebrill 2023 i ofyn am wybodaeth am y Tîm Ymyrraeth a Chymorth, gwaith a chynnydd yn erbyn amcanion a nodwyd yn y gyfundrefn mesurau arbennig, a'r amserlenni ar gyfer gwaith i edrych ar wella atebolrwydd ac adolygu ac adnewyddu'r fframwaith ymyrraeth ac uwchgyfeirio. Ymatebodd y Gweinidog ar 10 Mai 2023.

>>>    Ysgrifennodd y Pwyllgor hefyd at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 07 Gorffennaf 2023 i ofyn am ragor o wybodaeth ac eglurhad.

>>>    Ysgrifennodd y Pwyllgorau at Gadeirydd dros dro y Bwrdd Iechyd ar 07 Gorffennaf 2023 i ofyn am ragor o wybodaeth ac eglurhad.

<<<< 

 

Ar 6 Chwefror 2024, ysgrifennodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y fframwaith goruchwylio ac uwchgyfeirio.

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 07/07/2023

Dogfennau