Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Owain Roberts 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 18/09/2024 - Y Pwyllgor Cyllid

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00-09.15)

Cofrestru

(09.15-09.30)

Rhag-gyfarfod preifat

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1. 1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid.

 

(09.30)

2.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 18 Gorffennaf.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Nododd y Pwyllgor y papurau.

 

2.1

PTN 1 - Llythyr gan y Prif Swyddog Fferyllol at Archwilydd Cyffredinol Cymru: Peilot Paru Data Fferylliaeth Gymunedol - 19 Gorffennaf 2024

Dogfennau ategol:

2.2

PTN 2 - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet: Datganiad o Egwyddorion ar gyfer Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol - 19 Gorffennaf 2024

Dogfennau ategol:

2.3

PTN 3 - Llythyr gan Hefin David AS, Comisiynydd y Senedd: Cyllideb Atodol Gyntaf 2024-25 - 19 Gorffennaf 2024

Dogfennau ategol:

2.4

PTN 4 - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet: Osgoi Treth Gwarediadau Tirlenwi - 23 Gorffennaf 2024

Dogfennau ategol:

2.5

PTN 5 - Llythyr oddi wrth Gadeirydd Dros Dro y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y Gweinidog Gofal Cymdeithasol: Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol - 26 Gorffennaf 2024

Dogfennau ategol:

2.6

PTN 6 - Llythyr gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol: Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol - 26 Gorffennaf 2024

Dogfennau ategol:

2.7

PTN 7 - Llythyr gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol: Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) - Crynodebau Asesiad Effaith Integredig - 30 Awst 2024

Dogfennau ategol:

2.8

PTN 8 - Llythyr ar y cyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Gweinidog Gofal Cymdeithasol at Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Gwybodaeth ychwanegol - 6 Medi 2024

Dogfennau ategol:

2.9

PTN 9 - Cysylltiadau Rhynglywodraethol Cyllidol: Tystiolaeth ysgrifenedig gan Gyngor Polisi Cyllidol ac Ariannol Cymunedau Ymreolaethol Sbaen - 16 Gorffennaf 2024 (Cyflwynwyd y dystiolaeth hon i’r Pwyllgor Cyllid yn Sbaeneg yn unig ac fe’i cyfieithwyd i’r Saesneg gyda chaniatâd Cyngor Polisi Cyllidol ac Ariannol y Cymunedau Ymreolaethol)

Dogfennau ategol:

2.10

PTN 10 - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet: Cysylltiadau Ariannol Rhynglywodraethol - 2 Awst 2024

Dogfennau ategol:

2.11

PTN 11 - Llythyr gan Archwilio Cymru: Diweddariad ar ymateb Archwilio Cymru i adroddiad y Pwyllgor ynghylch gwaith craffu blynyddol ar Swyddfa Archwilio Cymru ac Archwilydd Cyffredinol Cymru - 12 Awst 2024

Dogfennau ategol:

2.12

PTN 12 - Llythyr gan yr Undeb Prifysgolion a Cholegau: Craffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26 - 29 Awst 2024

Dogfennau ategol:

2.13

PTN 13 - Llythyr oddi wrth y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig at Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad: Cytundeb Lefel Gwasanaeth rhwng Gweinidogion Cymru, yr Asiantaeth Taliadau Gwledig a Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain - 2 Medi 2024

Dogfennau ategol:

(09.30-10.30)

3.

Cyfalaf Trafodion Ariannol: Sesiwn dystiolaeth 3

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet, Llywodraeth Cymru

Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys, Llywodraeth Cymru

Sharon Bounds, Dirprwy Gyfarwyddwr Rheolaeth Ariannol, Llywodraeth Cymru

 

Dogfennau ategol:

FIN(6)-17-24 P1 - Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg: Papur tystiolaeth

Briff Ymchwil y Senedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth ar gyfer ei ymchwiliad i Gyfalaf Trafodiadau Ariannol gan Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, Llywodraeth Cymru; Andrew Jeffreys, Cyfarwyddwr Trysorlys, Llywodraeth Cymru; a Sharon Bounds, Dirprwy Gyfarwyddwr Rheolaeth Ariannol, Llywodraeth Cymru.

 

3.2 Cytunodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg i ddarparu’r canlynol:

·         Rhestr o brosiectau sy'n defnyddio cyfalaf trafodiadau ariannol ar hyn o bryd; a

·         Gwybodaeth am brosiectau a fethwyd sydd wedi defnyddio cyfalaf trafodiadau ariannol.

 

(10.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn a dechrau'r cyfarfod ar 25 Medi

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.30-10.45)

5.

Cyfalaf Trafodion Ariannol: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(10.45-11.15)

6.

Bae Caerdydd 2032 - Papur Briffio Technegol Comisiwn y Senedd

Ed Williams, Cyfarwyddwr Adnoddau y Senedd, Comisiwn y Senedd
Kate Innes, Prif Swyddog Cyllid, Comisiwn y Senedd

Jan Koziel, Pennaeth Caffael, Comisiwn y Senedd
Andrew Gibson, Cyfarwyddwr, Avison Young

 

Dogfennau ategol:

Papur briffio gan Ymchwil y Senedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cafodd y Pwyllgor sesiwn friffio dechnegol ar Fae Caerdydd 2032 gan swyddogion Comisiwn y Senedd.

 

(11.15-11.45)

7.

Goblygiadau ariannol Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru): Trafod yr adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

FIN(6)-17-24 P2 – Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunwyd arno gyda mân newidiadau.

 

(11.45-12.00)

8.

Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26: Y wybodaeth ddiweddaraf am y dull o graffu ar y gyllideb

Dogfennau ategol:

FIN(6)-17-24 P3 – Y dull o graffu ar y gyllideb: Papur blaen

FIN(6)-17-24 P4 - Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet: Amserlen Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26 - 29 Gorffennaf 2024

FIN(6)-17-24 P5 - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet: Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2025-26 Diweddariad ar yr amserlen - 8 Awst 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunwyd ar y dull o graffu ar y gyllideb.

 

(12.00-12.15)

9.

Fforwm Rhyngseneddol y Pwyllgorau Cyllid: Diweddariad

Dogfennau ategol:

FIN(6)-17-24 P6 – Fforwm Rhyngseneddol y Pwyllgorau Cyllid: Papur blaen

FIN(6)-17-24 P7 - Llythyr oddi wrth Fforwm y Pwyllgor Cyllid Rhyngseneddol at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys - 26 Mawrth 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor y papur ar Fforwm Rhyngseneddol y Pwyllgorau Cyllid a chytunwyd y bydd y Fforwm yn ysgrifennu ar y Prif Ysgrifennydd

y Trysorlys.