Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd 2024-25

Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd 2024-25

Rhaid i Gomisiwn y Senedd osod ei gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf gerbron y Senedd i ganiatáu i’r Pwyllgor Cyllid graffu ar ei chynigion. Ar ôl i’r Pwyllgor gwblhau ei waith craffu, bydd y Comisiwn yn cyhoeddi cyllideb derfynol, sydd i’w thrafod yn y Cyfarfod Llawn cyn y bleidlais i’w chymeradwyo gan y Senedd cyfan.

 

Gosododd Comisiwn y Senedd ei gyllideb ddrafft ar gyfer 2024-25 (PDF, 949KB) gerbron y Cynulliad ym mis Medi 2023.

 

 

Mae’r Pwyllgor wedi cyhoeddi adroddiad yn trafod ei waith Craffu ar Gyllideb Ddrafft Comisiwn y Senedd 2024-25 (PDF, 1611KB) ym mis Hydref 2023.

 

Ymatebodd (277 KB) Comisiwn y Senedd i adroddiad y pwyllgor ym mis Tachwedd 2023.

 

 

 

Math o fusnes: Craffu ar y gyllideb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Cyfnod 1

Cyhoeddwyd gyntaf: 26/09/2023

Dogfennau