Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Owain Roberts 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 26/06/2024 - Y Pwyllgor Cyllid

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(09.00-09.15)

Cofrestru

(09.15-09.30)

Rhag-gyfarfod preifat

(09.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid.

 

(09.30)

2.

Papur(au) i'w nodi

Cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 9 Mai, 16 Mai, a 22 Mai.

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.1 Cafodd y papurau eu nodi.

 

2.1

PTN 1 - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol: Rheoliadau sy'n ymwneud â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 - 17 Mai 2024

Dogfennau ategol:

2.2

PTN 2 - Adolygiad Annibynnol o Ymchwiliad Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i Gwynion Cod Ymddygiad: Cylch gorchwyl terfynol - 20 Mai 2024

Dogfennau ategol:

2.3

PTN 3 - Llythyr gan y Llywydd a Chadeirydd y Pwyllgor Busnes: Cylchoedd gorchwyl pwyllgorau - 22 Mai 2024

Dogfennau ategol:

2.4

PTN 4 – Llythyr gan Archwilio Cymru: Hysbysiad ar y sefyllfa o ran dyddiad cau archwilio - 23 Mai 2024

Dogfennau ategol:

2.5

PTN 5 – Llythyr gan Archwilio Cymru: Peilot Paru Data Fferylliaeth Gymunedol – 23 Mai 2024

Dogfennau ategol:

2.6

PTN 6 - Llythyr oddi wrth y Gweinidog Cyllid, Cynulliad Gogledd Iwerddon: Cysylltiadau Rhynglywodraethol Cyllidol - 29 Mai 2024

Dogfennau ategol:

2.7

PTN 7 - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet: gohirio cyhoeddi cyllideb atodol gyntaf Llywodraeth Cymru 2024-25 - 10 Mehefin 2024

Dogfennau ategol:

2.8

PTN 8 - Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y Gweinidog Gofal Cymdeithasol: Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) a sesiwn graffu gyffredinol - 12 Mehefin 2024

Dogfennau ategol:

2.9

PTN 9 - Llythyr gan y Trefnydd a'r Prif Chwip ar oblygiadau ariannol Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) - 31 Mai 2024

Dogfennau ategol:

2.10

PTN 10 - Llythyr oddi wrth y Trefnydd a'r Prif Chwip: Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol) - 14 Mehefin 2024

Dogfennau ategol:

2.11

PTN 11 - Llythyr ar y cyd gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad a'r Pwyllgor Cyllid: Deddfau Trethi Cymru etc. (Pŵer i Addasu) 2022: Adran 6 (Adolygiad o weithrediad ac effaith y Ddeddf hon) - 7 Mehefin 2024

Dogfennau ategol:

(09.30-10.30)

3.

Cysylltiadau Rhynglywodraethol Cyllidol: Sesiwn dystiolaeth 7

 

Ed Poole, Uwch Ddarlithydd, Canolfan Llywodraethiant Cymru (Dadansoddi Cyllid Cymru)

 

Dogfennau ategol:

Briff Ymchwil y Senedd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth yn ei ymchwiliad i Gysylltiadau Rhynglywodraethol Cyllidol gan Dr Ed Poole, Uwch-ddarlithydd, Canolfan Llywodraethiant Cymru (Dadansoddi Cyllid Cymru).

 

(10.30)

4.

Cynnig o dan Reol Sefydlog Rhif 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

4.1 Derbyniwyd y cynnig.

 

(10.30-10.45)

5.

Cysylltiadau Rhynglywodraethol Cyllidol: Trafod y dystiolaeth

Cofnodion:

5.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.

 

(10.45-11.00)

6.

Newidiadau i Brotocol y Gyllideb - Ymatebion gan y Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol

Dogfennau Ategol:

FIN(6)-14-24 P1 – Papur blaen

FIN(6)-14-24 P2 - Llythyr gan Archwilio Cymru– 15 Ebrill 2024

FIN(6)-14-24 P3 - Llythyr gan Gomisiwn y Senedd – 30 Ebrill 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y papur ar newidiadau i Brotocol Proses y Gyllideb, a’r ymatebion a gafwyd gan Archwilio Cymru a Chomisiwn y Senedd.

 

6.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet ar faterion yn ymwneud â Phrotocol Proses y Gyllideb a materion cyllidebol eraill, ac i anfon copi o'r llythyr at y Cyrff a Ariennir yn Uniongyrchol.

 

(11.00-11.15)

7.

Ymgynghori â phwyllgorau'r Senedd ynghylch craffu ar y Gyllideb Ddrafft

Dogfennau ategol:

FIN(6)-14-24 P4 - Papur blaen

FIN(6)-14-24 P5 – Llythyr oddi wrth Gadeirydd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig - 1 Mai 2024

FIN(6)-14-24 P6 – Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Ddeddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad - 9 Mai 2024

FIN(6)-14-24 P7 - Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol - 17 Mai 2024

FIN(6)-14-24 P8 - Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai - 22 Mai 2024

FIN(6)-14-24 P9 – Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol - 3 Mehefin 2024

FIN(6)-14-24 P10 - Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith – 18 Mehefin 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Nododd y Pwyllgor y llythyrau a gyflwynwyd gan Bwyllgorau'r Senedd a thrafododd y materion a godwyd ynghylch eu profiadau o graffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru.

 

7.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa'r Cabinet, gan dynnu sylw at y farn a fynegwyd gan Bwyllgorau'r Senedd am eu profiadau o graffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru.

 

(11.15-11.30)

8.

Aelodaeth Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru: Ymateb gan Archwilio Cymru

Dogfennau ategol:

FIN(6)-14-24 P11 - Papur blaen

FIN(6)-14-24 P12 - Llythyr gan Archwilio Cymru: Aelodaeth o Fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru - 11 Mehefin 2024

FIN(6)-14-24 P13 - Llythyr at Archwilio Cymru: Aelodaeth o Fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru - 13 Mai 2024

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Nododd y Pwyllgor ymateb Archwilio Cymru ynghylch aelodaeth Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru a chytunwyd i ysgrifennu yn ôl i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y newidiadau i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 y mae Archwilio Cymru am iddynt gael eu dwyn ymlaen.