Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: P Gareth Williams
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 10/06/2024 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(13.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Cofnodion: Cafwyd ymddiheuriadau gan Adam Price AS. |
|
(13.30 - 13.35) |
Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3. |
|
SL(6)486 - Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (Cyrff Cyhoeddus) (Diwygio) 2024 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad arno i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
SL(6)487 - Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Awdurdodau Cymreig Datganoledig) (Diwygio) 2024 Dogfennau ategol: Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno
adroddiad arno i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd. |
||
(13.35 - 13.40) |
Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol |
|
Gohebiaeth oddi wrth Lywodraeth Cymru: Cyfarfodydd y Grŵp Rhyngweinidogol Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol
mewn perthynas â gohirio cyfarfod o’r Grŵp
Rhyngweinidogol ar gyfer Etholiadau a Chofrestru a drefnwyd ar gyfer 23 Mai. |
||
(13.40 - 13.45) |
Papurau i’w nodi |
|
Gohebiaeth rhwng y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol a Llywodraeth y DU: Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth rhwng y Pwyllgor
Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol a
Llywodraeth y DU mewn perthynas â’r Bil Diogelu Data a Gwybodaeth Ddigidol. |
||
Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet: Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, y Cyfansoddiad a Swyddfa’r Cabinet. |
||
Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio: Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad a Rhydd-ddaliad a'r Bil Rhentwyr (Diwygio) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y Datganiad Ysgrifenedig gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a
Chynllunio. |
||
(13.45) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
|
(13.45 - 13.55) |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol - Rheoliadau Deddf Ynni 2023 (Diwygiadau Canlyniadol) 2024: Adroddiad drafft Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft. |
|
(13.55 - 14.10) |
Gohebiaeth gan Adam Price AS mewn perthynas â Charchar EF y Parc: Ystyriaethau pellach Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gan Adam Price AS, a
chytunwyd i ystyried y mater ymhellach yn y cyfarfod nesaf. |